Gwell Iechyd - Gwell CymruPennod 3

 
 
3. IECHYD A LLES CYNALIADWY
Mae'r bennod hon yn ystyried ffactorau sy'n atal afiechyd ac yn hybu iechyd a lles

3.1.   Caiff iechyd cynaliadwy ei sicrhau pan all pobl a chymunedau gymryd rheolaeth ar eu bywydau a byw eu bywyd yn llawn. Mae'r ffactorau sy'n cyfrannu at les yn cynnwys teimlo'n ddiogel, cael sicrwydd cartref a digon i fyw arno, perthnasoedd boddhaol, gweithgareddau difyr ac amrywiol, ac ymdeimlad eich bod yn symud yn eich blaen.
 
3.2.   Mae'n debyg mai amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd rhywun yw'r dylanwad cryfaf ar iechyd, salwch y gellir ei osgoi a marwolaeth gynamserol. Ceir cysylltiadau cryf rhwng y patrwm o amddifadedd a'r patrwm o afiechyd a chlefyd. Mae ble'r ydych yn byw, ac a ydych mewn swydd neu beidio, yn dylanwadu ar ddeiet, ysmygu, straen a ffordd o fyw. Gall ble'r ydych yn gweithio, pa mor dda yw'r rheolaeth ar y peryglon yn y gwaith, ac i ryw raddau ble'r ydych yn byw, ddylanwadu ar ddatguddiad i beryglon amgylcheddol, gan gynnwys peryglon yn yr amgylchedd gwaith.
 
3.3.   Gellir gweld patrwm amlwg o afiechyd, salwch ac absenoliaeth yng Nghymru, a esbonnir yn rhannol o bosibl gan hanes y diwydiannau trwm. Yn y gorffennol, yn sgil dibyniaeth ar ddiwydiannau megis glo a dur, gwelwyd gwahaniaethau mewn addysg, medrau a dyheadau. Pan gaeodd y diwydiannau, nid oedd y bobl wedi'u paratoi'n dda i gymryd swyddi eraill ac nid oedd diwydiannau newydd yn gweld y cyn-ardaloedd glofaol yn fannau da ar gyfer buddsoddi. Mae strategaeth adfywio'r economi ar gael ers blynyddoedd lawer, ond nid yw'r cydadwaith rhwng materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac iechyd bob amser wedi'i ddeall.
 
3.4.   Mae angen cymryd camau at y tymor-hir i fynd i'r afael ag achosion anghydraddoldeb mewn iechyd ac yn yr economi. Gallai hyn olygu ymagwedd newydd at gynnal iechyd ac at ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol fel adnoddyn cymunedol. Gall fod angen cyflwyno asesiadau effaith iechyd, gwaith hybu iechyd sy'n rhoi sylw i'r pwysau a geir mewn rhai cymunedau yn sgil anfanteision niferus, ac ail-ffocysu cyfrifoldebau proffesiynol. Un o'r prif flaenoriaethau yw cydnabod pwysigrwydd iechyd cynaliadwy wrth adfywio'r economi a'r gymdeithas.
 
Cyflogaeth
 
3.5.   Ar y cyfan, mae bod mewn gwaith yn iachach na bod yn ddi-waith. Mae gwaith ystyrlon, am dâl neu beidio, yn diogelu iechyd y meddwl ac yn hybu ymdeimlad o hunan-werth ac o berthyn. Mae ar gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gweithleoedd ac arferion gwaith yn ddiogel ac iach. Gall cyflogwyr ddylanwadu'n sylweddol hefyd ar iechyd cyffredinol gweithwyr.
 
Oddi ar Fudd-daliadau i mewn i Waith
 
3.6.   Mae'r sicrwydd yn sgil chwarae rhan fuddiol ym mywyd y gymuned, drwy weithio fel arfer, yn ganolog i ymdeimlad pawb o les ac yn ganolog i greu cymunedau cynaliadwy. Diben y Fargen Newydd ar gyfer pobl ddi-waith hir-dymor yw gwella gallu pobl i gael eu cyflogi a'u helpu i mewn i gyflogaeth gynaliadwy. Dyluniwyd y cynllun oddi ar Fudd-daliadau i mewn i Waith i ffocysu'r cymorth sydd ar gael ar anghenion unigolion; meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith ei gleientau a gwireddu ei amcanion drwy weithio mewn partneriaeth. Bydd cymorth pellach ar gael ym Mharth Cyflogi Prototeip y Gogledd-orllewin. Un o 5 prototeip yw hwn, lle bydd partneriaethau lleol yn anelu at dynnu ynghyd wahanol linynnau cymorth er mwyn creu pecyn mwy cynhwysfawr, yn ffocysu ar yr unigolyn.
 
Gweithleoedd Iach
 
3.7.   I bobl sy'n gweithio, mae amgylchedd y gwaith yn ddylanwad pwysig ar eu hiechyd. I lawer, mae mynd i'r gwaith yn rhan bositif o'u bywyd, ac mae'n ei helpu i aros yn iach. Ond mae angen sicrhau nad yw gwaith yn gwneud pobl yn sâl, a'u bod yn ymadael â'r gwaith ar ddiwedd y dydd o leiaf mor iach â phan ddaethant i mewn. Mae ffactorau megis pa mor dda yw'r rheolaeth ar beryglon y gweithle, yn unol â chyfraith iechyd a diogelwch, yn chwarae eu rhan mewn creu gweithleoedd iach. Mae'r Comisiwn (HSC) a'r Awdurdod Gweithredol (HSE) Iechyd a Diogelwch wrthi'n datblygu Strategaeth Genedlaethol ar Iechyd Galwedigaethol a disgwylir gweld papur trafod yn cael ei gyhoeddi yn ystod 1998. Bydd y strategaeth yn cydategu ac yn cyfrannu at y strategaeth ar gyfer Cymru iachach.
 
3.8.   Yn ddiweddar cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganlyniadau arolwg o salwch cysylltiedig â gwaith a hunan-adroddwyd.as Amcangyfrifir bod 100,000 o bobl yng Nghymru (4.7 am bob 100 o bobl sydd wedi bod mewn cyflogaeth erioed, o'i chymharu â 4.8 am bob 100 ym Mhrydain Fawr) yn dioddef salwch sy'n gysylltiedig â'u gwaith. Er hynny, cymerodd pobl yng Nghymru fwy o ddyddiau i ffwrdd o'u gwaith am bob gweithiwr o ganlyniad i'r salwch hwn (0.84 dydd y gweithiwr, o'i gymharu â 0.71 dydd y gweithiwr ar gyfer Prydain Fawr yn ei chrynswth). Fe allai'r dioddef personol hwn, a'r gost economaidd i Gymru yn sgil yr 1.1 miliwn o ddyddiau a gollir bob blwyddyn, gael eu lleihau.
 
3.9.   Mae ymgyrch yr HSE Good Health is Good Business yn ceisio codi ymwybyddiaeth o beryglon i iechyd yn y gwaith a helpu cwmnïau i reoli'r peryglon iechyd yn eu gweithleoedd. Mae gan ymgyrchoedd fel hyn ran bwysig i'w chwarae wrth sicrhau iechyd da yng Nghymru. Mae mentrau cenedlaethol cyfredol, megis Health at Work: The Corporate Standard a ddatblygwyd gan Hybu Iechyd Cymru, yn cynnig cymorth ymarferol a chanllawiau ar yr arferion gorau. Mae'r HSC yn edrych hefyd ar ffyrdd o fwrw ymlaen â fframwaith hyblyg o wasanaethau iechyd galwedigaethol a fydd yn rhoi sylw i anghydraddoldebau posibl mewn mynediad i gyngor ar iechyd galwedigaethol.
 
3.10.   Yn olaf, gall cyflogwyr fod yn ddylanwadol wrth hybu iechyd drwy ddarparu amgylchedd cefnogol i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu, dewisiadau iach o fwydydd yn y cyfleusterau arlwyo a hybu seiclo, cerdded a chludiant cyhoeddus yn lle teithio i'r gwaith yn y car. Gall hybu iechyd yn y gweithle wella cynhyrchedd, codi'r ysbryd, lleihau absenoliaeth a throsiant staff, gwella delwedd y sefydliad a helpu i ddenu staff o'r radd uchaf.
 
Sut gall mwy o gyflogwyr, gweithwyr a chyrff megis cymdeithasau masnach ac undebau llafur wneud cyfraniadau mwy effeithiol byth i reoli peryglon yn y gweithle a sicrhau iechyd cynaliadwy yn y gweithle?

Diogelwch Cymunedol
 
3.11.   Mae amgylchedd diogel yn rhydd rhag trosedd (neu ofn trosedd) yn cyfrannu'n sylweddol at ymwybod yr unigolyn o les. Mae'r rhai sy'n dioddef troseddau treisiol (sydd, yn ffodus, yn beth prin) yn dioddef effeithiau sylweddol ar eu hiechyd. Yr oedd un ym mhob pum oedolyn a holwyd yn Arolwg Troseddau Prydain (1996) yn bryderus iawn am ddioddef bwrgleriaeth, cael eu mygio, neu ddwyn eu car. Mae'n bwysig lleihau troseddau ac ofn troseddau. I fynd i'r afael â throseddau, mae angen cydweithio ar lawer lefel er mwyn lleihau ymddygiad troseddol ac atal ail-droseddu. Mae'n arwyddocaol bod y tri-chwarter o bobl ifanc a gollfernir am y troseddau mwyaf treisiol a difrifol wedi dioddef camdriniaeth gorfforol, rhywiol neu emosiynol eu hunain.
 
3.12.   Bydd Deddf Troseddau ac Anhrefn (1998) yn gosod rhwymedigaethau newydd ar yr awdurdodau lleol a'r heddlu (Ôyr awdurdodau cyfrifol'):
  • i adolygu lefelau a phatrymau troseddau ac anhrefn;
     
  • cyhoeddi adroddiad i ddadansoddi goblygiadau'r archwiliad ar gyfer strategaeth lleihau troseddau;
     
  • i ymgynghori â phartneriaid a bennir gan yr Ysgrifennydd Gartref (awdurdodau heddlu, awdurdodau iechyd a phwyllgorau profiannaeth) ac eraill sydd â diddordeb:
     
  • i lunio a chyhoeddi strategaeth ar gyfer lleihau troseddau ac anhrefn.
Cyhyd ag y caiff sêl bendith y Senedd, deddfir darpariaethau'r Mesur o 1 Medi 1998 ymlaen. Disgwylir i'r partneriaethau ddechrau gwaith ar y strategaeth a'r archwiliad diogelwch cymunedol ar unwaith, gan sefydlu strategaethau, ar sail archwiliadau, erbyn 1 Ebrill 1999. Yn yr Hydref ym 1998 bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod hefyd.
 
3.13.   Mae'r ffyrdd posibl o dorri'r cylch o ymddygiad gwrth-gymdeithasol a mynd i'r afael â pheryglon hysbys ar gyfer troseddau yn cynnwys:
  • lleihau beichiogrwyddau yn yr arddegau a beichiogrwyddau diangen a datblygu cynlluniau i wella medrau rhieni;
     
  • canolbwyntio gwasanaethau ar ardaloedd amddifad i helpu pobl ifanc sy'n hawdd eu niweidio a'u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn hybu hunan-barch a medrau cymdeithasol;
     
  • sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i driniaeth i atal camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ac i adsefydlu yn eu sgil;
     
  • sicrhau bod gan wasanaethau iechyd meddwl plentyndod a glasoed arbenigedd wrth ymdrin ag anhwylderau ymddygiad a phlant treisgar neu or-weithgar.
Sut gallai targedau gwella iechyd gryfhau strategaeth lleihau troseddau?

Cymorth Personol a Theuluol
 
3.14.   Gall rhwydweithiau o deuluoedd, cyfeillion a sefydliadau cymdeithasol (e.e. eglwysi, clybiau, cyfleusterau chwaraeon, cyrff gwirfoddol) fod yn bwysig wrth feithrin hunan-barch a hyder ac wrth roi cymorth. Mae'r rhwydweithiau traddodiadol hyn wedi mynd yn llai effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf gyda phatrymau cyflogaeth ac adloniant yn newid.
 
3.15.   Gall rhieni newydd gael cymorth drwy siarad â rhieni eraill, drwy gyfrwng cysylltiadau â'r teulu ehangach ac o gynlluniau i helpu i gynyddu eu gwybodaeth a'u medrau fel rhieni; gallai'r rhain ddod o amrediad o asiantaethau.
 
3.16.   Gwyddys bod perthynas o ymddiriedaeth agos â phartner a chyfaill agos yn ffactor sy'n diogelu yn erbyn salwch meddwl. Mae tor-perthynas ac ysgaru yn creu canlyniadau dwfn ar gyfer yr unigolion o dan sylw. Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn incwm a llai o weithgarwch economaidd, yn arbennig ymysg menywod. Mae plant perthnasoedd o'r fath yn debycach o amlygu aflonyddwch emosiynol ac ysgaru wedyn fel oedolion.
 
3.17.   Gallai ymyriadau effeithiol yn y meysydd hyn gynnwys:
  • cymorth ar gyfer gwasanaethau cwnsela a chymodi priodasol;
     
  • hybu addysg ar gyfer rhieni, rhaglenni cymorth a chynlluniau sy'n creu cyfeillion ymhlith rhieni unig;
     
  • gorfodi rhieni dibriod a rhieni sydd wedi gwahanu i ysgwyddo mwy o hawliau a chyfrifoldebau rhiant;
     
  • lleihau nifer y beichiogrwyddau diangen;
     
  • cefnogi grwpiau ieuenctid a grwpiau teuluol ar lefel gymunedol;
     
  • cryfhau rôl Ymwelwyr Iechyd a bydwragedd wrth roi cymorth i deuluoedd a rhieni;
     
  • rhoi sylw i gwestiynau dinasyddiaeth, bod yn rhiant, addysg rhyw a pherthnasoedd yn yr ysgol;
     
  • mynd i'r afael â thrais domestig a digartrefedd;
     
  • hybu gwyliau i rieni ac arferion cyflogaeth sy'n gydnaws â'r teulu;
     
  • hybu rhwydweithiau cymorth cymunedol.

Plant
 
3.18.   Mae iechyd plant yn ddangosydd pwysig o iechyd yn nes ymlaen yn eu bywyd. Mae lefelau uchel o iechyd gwael ymhlith oedolion yn niweidio iechyd eu plant. Heintiadau byr-dymor ar yr anadl ac anhwylderau'r glust yw prif achosion salwch mewn plant. Damweiniau yw'r prif achos marwolaeth. Caiff niferoedd cymharol uchel o blant eu hatgyfeirio i gael triniaeth am ddamweiniau ac achosion brys.
 
3.19.   Mae'r Swyddfa Gymreig yn bwriadu canolbwyntio ar iechyd a lles plant fel buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd y Swyddfa Gymreig yn adeiladu ar Iechyd Plant yng Nghymru (1997)cn er mwyn datblygu strategaeth gynhwysfawr i wella iechyd plant.
 
Sut dylai polisi cyhoeddus ddiogelu plant a theuluoedd a sut gall pob sector o'r gymuned feithrin rôl ofalgar?

Dieithrwch Cymdeithasol
 
3.20.   Gall diweithdra, medrau isel, incwm isel, tai gwael, amgylchedd o droseddau uchel a chwalfa deuluol, yn ogystal ag iechyd gwael, olygu bod unigolion a chymunedau yn methu â chymryd rhan gyflawn mewn cymdeithas.
 
3.21.   Mae rhai cymunedau a theuluoedd yn ynysig oherwydd hil, lliw neu grefydd. Mae eraill yn methu â manteisio ar ystod gyflawn o gyfleoedd am eu bod mewn ardaloedd anghysbell. Amgylchiadau, ac nid problemau unigol, sy'n golygu bod y rhain wedi'u cau allan o'r gymdeithas. Wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy bolisïau cynhwysfawr ac integredig, rhaid cynnwys persbectif grwpiau lleiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill.
 
3.22.   Mae'r Swyddfa Gymreig yn datblygu rhaglen i nodi a, lle bo'n bosibl, i wella mentrau polisi sy'n rhoi sylw i ddieithrwch cymdeithasol. Bydd y cynigion yn cymryd i ystyriaeth y partneriaethau a'r cydweithredu o fewn yr Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill. Mae'r gwaith hwn yn cydategu gwaith yr Uned Dieithrwch Cymdeithasol yn Lloegr a'r strategaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
 
Sut dylai grwpiau lleiafrifol gael eu cynnwys mewn polisïau ar gyfer gwella iechyd a lles?
 

Yn &ocircl Cynnwys Ymlaen
Yr ydym yn croesawu sylwadau ar y safle hwn.
Paratowyd 14 Mai 1998