| 4. | FFORDD IACH O FYW Mae'r bennod hon yr nodi'r ffyrdd o fyw sy'n brif benderfynyddion iechyd. |
4.1. Mae penderfyniad person i ysmygu, ymarfer corff yn aml, neu ddilyn deiet iach, yn effeithio ar iechyd a lles. Nid mater o wybodaeth a dewis yn unig yw ffordd o fyw - mae'r dystiolaeth yn awgrymu y dylanwadir yn gryf arno gan ffactorau ehangach sy'n gysylltiedig â sefyllfaoedd lleol a phersonol, gan gynnwys lefel addysgol, medrau personol, pwysau cyfoedion, a ffactorau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
4.2. Mae mynediad i wybodaeth briodol am ffyrdd iach o fyw yn helpu pobl i wneud dewisiadau, ond hwyrach na fydd gwybodaeth ar ei phen ei hun yn ddigon i ategu newid. Mae hyn yn gofyn bod unigolion a chymunedau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Yr unig ffordd o sicrhau newid o'r fath yw gweithio gydag unigolion a chymunedau mewn ffordd sy'n golygu bod y problemau a'r atebion yn perthyn iddynt.
Ysmygu
4.3. Defnyddio tybaco yw'r achos unigol mwyaf o farwolaeth gynamserol ac afiechyd y gellir ei atal yng Nghymru. Ysmygu yw prif achos canser yr ysgyfaint ac mae hefyd yn cynyddu'n sylweddol ar y perygl o ganserau'r geg, y stumog, yr arennau, y bledren a'r cefndedyn. Mae ysmygwyr yn debycach o ddioddef clefyd y galon a broncitis cronig. Mae'r rhai nad ydynt yn ysmygu ond sydd mewn cysylltiad ag ysmygwyr hefyd yn dioddef perygl uwch o ganser yr ysgyfaint a chlefyd y galon.
4.4. Mae mamau beichiog sy'n ysmygu yn debycach o gael babanod llai, sydd hwythau'n debycach o brofi iechyd gael. Mae marwolaethau yn y crud ymhlith babanod mamau a fu'n ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn fwy cyffredin nag ymhlith babanod mamau nad ydynt yn ysmygu. Ceir perygl uwch o anhwylderau'r anadl ymhlith plant ysmygwyr.
4.5. Yng Nghymru, rhwng 1985 a 1996, gostyngodd y gyfran o ddynion a oedd yn ysmygu bob dydd o 35% i 28%, ac o 30% i 26% yn achos menywod. Codi a disgyn fu hanes cyfraddau ysmygu ymhlith arddegwyr dros y 10 mlynedd diwethaf. Ymhlith arddegwyr 15 oed, y gyfran o fechgyn a oedd yn ysmygu oedd 16% ym 1986, gan ostwng i 12% ym 1988 a chodi i 23% ym 1996. Ymhlith merched yn eu harddegau mae'r ffigurau yn uwch, ond yr un yw'r patrwm. Ym 1986 y lefel oedd 20%, gan ostwng i 19% ym 1988 a chodi i 29% ym 1996.aq Mae strategaethau effeithiol i leihau lefelau ysmygu yn hanfodol ar gyfer iechyd yn y dyfodol.
4.6. Gallai'r camau i leihau cyffredinolrwydd ysmygu gynnwys:
- gorfodi'r ddeddfwriaeth ar werthu tybaco;
- polisïau di-fwg yn y gweithle a mannau cyhoeddus;
- atal pobl rhag dechrau - rhaglenni addysg iechyd yn yr ysgolion, clybiau mygu mwg, ysgolion di-fwg;
- helpu pobl i stopio - rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu;
- negeseuon hybu iechyd cryfach;
- rhoi sylw i'r cwestiwn pam mae mwy o ferched nag o fechgyn yn ysmygu.
| Mygu Mwg Cymru |
Rhaglen genedlaethol yw Mygu Mwg Cymru ac mae'n anelu at hybu delwedd bositif o fod yn ddi-fwg ymhlith y rhai 9-13 oed. Mae gan y clwb, sy'n agored i unrhyw berson ifanc sy'n addo peidio â dechrau ysmygu, yn prysur agosáu at 20,000 o aelodau.
Cydgysylltir Mygu Mwg Cymru yn genedlaethol gan Awdurdod Hybu Iechyd Cymru ac mae'n cael ei redeg yn lleol gan weithwyr hybu iechyd.
|
4.7. Yng Ngorffennaf 1997, addawodd y Canghellor godi'r trethi ar dybaco 5% mewn termau real bob blwyddyn. Mae'r Llywodraeth wedi cymryd camau pendant hefyd i sicrhau diwedd ar hysbysebion a nawdd tybaco, gan gynnig amser i bob camp ddod o hyd i ffynonellau eraill o nawdd. Sicrhawyd cytundeb yn y Cyngor Iechyd Ewropeaidd ar Gyfeireb Hysbysebu Tybaco i wahardd hysbysebu a nawdd o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn ym 1998 gyda chynigion ar fwrw ymlaen â'r gwaharddiad o fewn y DU fel rhan o ystod gynhwysfawr ac integredig o fesurau i fynd i'r afael ag ysmygu a lleihau'r afiechyd a'r marwolaethau cynamserol cysylltiedig.
4.8. Lansiwyd Adroddiad y Pwyllgor Gwyddonol ar Dybaco ac Iechyd (SCOTH) ar 11 Mawrth 1998. Mae'n cynnig negeseuon allweddol ar feysydd megis ysmygu gweithredol, ysmygu goddefol a chaethineb i nicotin. Mae hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer mynd i'r afael â meysydd megis cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd, diogelu pobl ifanc rhag hybu a hysbysebu tybaco, addysg iechyd a darparu mwy o wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
Maethiad a Deiet
4.9. Mae deiet iach a chytbwys yn ffactor o bwys wrth gynnal iechyd. Ceir fitaminau a ffibr mewn llysiau a ffrwythau, a chredir bod y rhain yn diogelu rhag clefydau'r coluddyn a chanserau yn gyffredinol. Mae lefelau uchel o asidau brasterog irlawn yn achosi clefyd y galon a'r strôc, ac mae cymeriant halen uchel yn cyfrannu at lefelau pwysau gwaed uchel, sydd yn eu tro yn arwain at strôc. Mae cymeriant braster irlawn yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf, fel canran o'r egni o fraster wedi aros tua 40% ac nid yw'n argoeli ei fod yn gostwng i'r lefel a argymhellir, sef 35% o egni bwyd. Dangosodd Arolwg Iechyd Cymru (1995)ct fod pobl Cymoedd y De yn bwyta lle o ffrwythau a llysiau a mwy o floneg nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Cynyddu mae lefelau pobl rhy drwm a gor-dew yng Nghymru, gyda 51% o fenywod a 53% o wrywod ym 1996 yn rhy drwm neu'n or-dew.
4.10. Mae deiet iach yn ffordd bwysig o hybu twf a datblygiad. Gall maethiad priodol helpu plant a phobl ifanc i ganolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â helpu i atal afiechyd yn nes ymlaen mewn bywyd. Nodwyd bwriad y Llywodraeth yn y Papur Gwyn Adeiladu Ysgolion Ardderchog Gyda'n Gilydd i gyflwyno safonau maethol ar gyfer cinio yn yr ysgol. Bydd y rhain yn adeiladu ar yr arferion da sy'n bodoli eisoes ynghylch y fframwaith i ddarparwyr lle mae modd i arlwywyr gynnig cinio ysgol sy'n iach ac yn ddymunol.
4.11. Mae'n bwysig bod pawb yn cael cyfle hawdd i gael amrywiaeth eang o fwydydd sy'n faethlon ac yn rhesymol eu pris er mwyn i bawb fforddio Ôbwyta i fod yn iach'. Yn ogystal â'r deunyddiau crai, mae ar bobl angen cyfle i gael cyngor ynghylch dulliau paratoi bwyd sy'n cadw ei werth maethiadol ac yn ddiogel. Mae hyn yn arbennig o wir i grwpiau sy'n hawdd ei niweidio megis plant (e.e. drwy wersi yn yr ysgol), mamau beichiog (e.e. dosbarthiadau cyn-genhedlu a dosbarthiadau Ôrhieni') a phobl oedrannus.
|