Dangosydd
| Targed
|
| 1. | Canser y tracea, broncws, ysgyfaint. ICD 162 |
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am ganser yr ysgyfaint mewn dynion o dan 75 oed 54% o leiaf erbyn 2010 (o 49.2 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 22.6 yn 2010).
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am ganser yr ysgyfaint mewn menywod o dan 75 oed 21% o leiaf erbyn 2010 (o 23.0 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 18.2 yn 2010).
Yn ogystal, mae'r targedau ysmygu 12(a) a 12(b) i'w trin fel mesuriadau dros dro o gynnydd yn 2002.
|
| 2. | Canser y fron i fenywod. ICD 174 |
Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am ganser y fron mewn menywod rhwng 50 a 74 oed 30% o leiaf erbyn 2002 (o 83.9 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 58.7). |
| 3. | Canser ceg y groth. ICD 180 |
Gostwng y gyfradd cofrestru safonedig Ewropeaidd am ganser ymledol yng ngheg y groth mewn menywod 50% o leiaf erbyn 2002 (o 21.9 ym mhob 100,000 ym 1990 i ddim mwy nag 11.0).
Caiff y targed a bennwyd ei adolygu yng ngoleuni data mwy diweddar a ddilyswyd gan Gofrestrfa Canser Cymru, pan fydd ar gael.
|
| 4. | Clefyd coronaidd y galon (Clefyd isgemig y galon). ICD 410-414 |
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am glefyd coronaidd y galon ar gyfer pobl o dan 65 oed 50% o leiaf erbyn 2002 (o 50.3 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 25.2).
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am glefyd coronaidd y galon ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed 25% o leiaf erbyn 2002 (o 820 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 615).
|
| 5. | Clefyd Serebo-fasgwlaidd (strociau). ICD 430-438 |
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd o strôc mewn pobl o dan 65 oed 20% o leiaf erbyn 2002 (o 11.5 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 9.2).
- Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd o strôc mewn pobl rhwng 65 a 74 oed 25% o leiaf erbyn 2002 (o 218.4 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy na 163.8).
|
| 6. | Damweiniau. ICD E800-949 |
Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig am ddamweiniau ar gyfer pob oedran, 15% o leiaf erbyn 2002 (o 20.7 ym mhob 100,000 i ddim mwy na 17.6).
Caiff y posibilrwydd o ddefnyddio System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan i bennu a monitro'r targed am fynychder anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau ei adolygu'n rheolaidd.
|
| 7. | Hunanladdiad a marwolaethau lle nad yw'r achos wedi'i bennu. ICD E950-959, E980-989 |
Gostwng y gyfradd marwoldeb safonedig Ewropeaidd am hunanladdiad (gan gynnwys marwolaethau lle nad yw'r achos wedi'i bennu) 10% o leiaf erbyn 2002 (o 12.3 ym mhob 100,000 ym 1995 i ddim mwy nag 11.1). |
| 8. | Pwysau geni isel. |
Gostwng cyfradd y babanod â phwysau geni isel (yn is na 2,500gram) i lai na 6% erbyn 2002.
Caiff y posibilrwydd o wahanu'r babanod â phwysau geni isel iawn (llai na 1,500 gram) o'r gweddill ei adolygu'n rheolaidd. |
| 9. | Poen cefn. |
Erbyn 2002 gostwng 10% o leiaf ar y gyfran o bobl o dan 65 oed sy'n adrodd eu bod yn dioddef poen yn y cefn sydd wedi'i drin gan feddyg, yn ôl yr hyn a fesurwyd gan Arolwg Iechyd Cymru o 27.4% ym 1995 i ddim mwy na 24.7%. |
| 10. | Llid y Cymalau. |
Codi Sgôr Gryno gymedrig y Gydran Gorfforol mewn pobl 65 oed a throsodd sy'n adrodd bod ganddynt lid y cymalau sydd wedi'i drin gan feddyg i 34.9 erbyn 2002 (o 32.4 ym 1995), fel y'i mesurwyd gan Arolwg Iechyd Cymru. |
| 11. | Iechyd Meddwl. |
Codi Sgôr Gryno gymedrig y Gydran Feddyliol yng Nghymru i 50 (yn gyfartal â ffigur UDA) erbyn 2002 (o 49.5 ym 1995), fel y'i mesurwyd gan Arolwg Iechyd Cymru. |
| 12. | Ysmygu. |
- Gostwng y gyfran o oedolion rhwng 18 a 64 oed sy'n ysmygu (pob dydd ac yn achlysurol) i ddim mwy nag 20% ar gyfer dynion a menywod erbyn 2002 (o 31.5% ar gyfer dynion a 28.1% ar gyfer menywod ym 1993).
- Gostwng y gyfran o blant 15 oed sy'n ysmygu (o leiaf yn wythnosol) i ddim mwy nag 16% ar gyfer bechgyn ac 20% ar gyfer merched (o 23% mewn bechgyn a 29% mewn merched ym 1996).
- Cynyddu'r gyfran o fenywod sy'n rhoi'r gorau i ysmygu wrth ddisgwyl baban i 33% o leiaf.
Caiff y targed ar gyfer ysmygu yn ystod beichiogrwydd ei ddatblygu fel ymarfer peilot gyda Grwp Cydlynu'r Awdurdodau Iechyd, lle ceisir cytundeb ar ddiffiniad manwl, a ffynonellau data.
|
| 13. | Bwyta ffrwythau a llysiau. |
- Cynyddu'r gyfran o oedolion rhwng 18 a 64 oed sy'n bwyta llysiau gwyrdd neu salad bron bob dydd i 40% o leiaf erbyn 2002 (o 32.8% ym 1993).
- Cynyddu'r gyfran o oedolion rhwng 18 a 64 oed sy'n bwyta ffrwythau ffres bron bob dydd i 55% o leiaf erbyn 2002 (o 44.3% ym 1993).
|
| 14. | Yfed alcohol. |
Lleihau'r ganran o ddynion rhwng 18 a 64 oed sy'n yfed mwy nag 21 uned o alcohol yr wythnos i 18% erbyn 2002 (o 26.4% ym 1993), a menywod rhwng 18 a 64 oed sy'n yfed mwy na 14 uned yr wythnos i 7% erbyn 2002 (o 8.5% ym 1993). |
| 15. | Pydredd dannedd. |
Lleihau'r gyfran o blant sy'n dioddef pydredd dannedd (DMFT o 1 neu fwy) o 5 pwynt canrannol fel y'i mesurwyd gan Arolygon Cydgysylltiedig BASCD, o 53% o blant 5 oed ym 1995 i 48% erbyn 2002, ac o 64% o bobl ifanc 14 oed ym 1994 i 59% erbyn 2002. |