A World Class Competition Regime



RHAGAIR


 Patricia Hewitt MP

Y Gwir Anrh. Patricia Hewitt AS
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant

Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, datblygodd y Llywodraeth hon lwyfan o sefydlogrwydd economaidd gyda chynnydd cadarn a sefydlog a chyda'r nifer uchaf o bobl erioed mewn cyflogaeth. Dechreuasom raglen bwysig o ddiwygiadau economaidd strwythurol, gan gynnwys Deddf Cystadleuaeth newydd a diwygiadau ansolfedd. Nawr yw'r amser i ddatblygu'r cyflawniadau hyn ymhellach. Rydym am gael economi flaengar i sicrhau mai'r DU yw'r lle gorau yn y byd i gynnal busnes.

Ar 18 Mehefin, cyhoeddodd y Canghellor a minnau ein bwriad i sicrhau mai menter a chynhyrchiant yw conglfaen diwygiadau economaidd y Llywodraeth yn ystod y tymor hwn yn y Senedd. Bydd hybu menter yn rhoi hwb i fusnes yn y DU ac yn gwella cynhyrchiant. Bydd ein Mesur Menter yn atgyfnerthu cystadleuaeth a phwer defnyddwyr drwy ddiwygio cyfraith cystadleuaeth mewn ffordd radical, drwy drawsnewid ein hymagwedd tuag at fethdalu ac achubiaeth gorfforaethol a thrwy hyrwyddo dulliau diogelu newydd i ddefnyddwyr. Rydym yn credu y bydd hyrwyddo menter yn rhyddhau sgiliau entrepreneuraidd pobl Prydain.

Yn y Papur Gwyn hwn, rwyf yn nodi fy nghynigion o ran diwygio cyfraith cystadleuaeth. Caiff cystadleuaeth a menter eu hatgyfnerthu. Bydd gan y Swyddfa Masnachu Teg, wedi'i hategu gan fwrdd strategol, gyda mwy o bwerau ac adnoddau, ddyletswyddau i hyrwyddo cystadleuaeth yn yr economi. Ni fydd gweinidogion yn cymryd rhan yn y mwyafrif helaeth o achosion monopoli ac uno, a'r Comisiwn Cystadleuaeth fydd yn gyfrifol am benderfynu ar achosion o ddydd i ddydd gan ddefnyddio prawf yn seiliedig ar gystadleuaeth. Bydd hyn yn cynyddu sicrwydd busnes. Rydym yn rhoi rôl ffurfiol i'r Swyddfa Masnachu Teg i'n cynghori lle y gallai rheoliadau gael effaith ar faterion yn ymwneud â chystadleuaeth ac rydym yn bwriadu cyflwyno mesurau cryf i atal ymddygiad gwrthgystadleuol drwy gyflwyno trosedd newydd ar gyfer y rheini sy'n cymryd rhan mewn cartelau. Drwy fesurau megis cyflwyno'r uwch-gwyn, lle y gall cyrff defnyddwyr penodedig godi materion pwysig yn ymwneud â'r farchnad gyda'r Swyddfa Masnachu Teg, rydym yn sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd polisi cystadleuaeth.

Drwy'r diwygiadau hyn, a mesurau pellgyrhaeddol eraill megis ein hadolygiad o gyfraith cwmnïau a'n gwaith i ddiwygio cyfraith cyflogaeth, byddwn yn sefydlu fframwaith busnes modern sydd â menter a chynhyrchiant wrth ei wraidd. Bydd yn atgyfnerthu busnesau yn y DU a'u helpu i fod ar flaen y gad yn y dyfodol drwy gystadleuaeth well a defnyddwyr cryfach.

signature

 
previous page contents next page

Prepared 30 July 2001