A World Class Competition Regime


CRYNODEB GWEITHREDOL


Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi cynllun i ddatblygu cyfundrefn cystadleuaeth o'r radd flaenaf ar gyfer y DU. Mae cystadleuaeth gref rhwng cwmnïau yn anadl einioes i farchnadoedd cryf ac effeithiol. Mae cystadleuaeth yn helpu defnyddwyr i gael chwarae teg, ac mae'n hybu arloesedd a chynhyrchiant.

EGWYDDORION Y LLYWODRAETH O RAN POLISI CYSTADLEUAETH


Ers 1997, mae'r Llywodraeth wedi cymryd cyfres o gamau i ddatblygu cyfundrefn cystadleuaeth o'r radd flaenaf yn y DU. Bu camau'r Llywodraeth yn seiliedig ar gyfres glir o egwyddorion, sydd hefyd wrth wraidd y diwygiadau a geir yn y Papur Gwyn hwn.

  • Awdurdodau cystadleuaeth cryf, proactif ac annibynnol a ddylai wneud penderfyniadau ar gystadlu.
  • Dylai'r gyfundrefn ddatgelu pob math o ymddygiad gwrthgystadleuol.
  • Dylid sicrhau effaith ataliol gref.
  • Dylai iawndal gwirioneddol fod ar gael i bartïon sydd wedi cael niwed.
  • Dylai'r Llywodraeth a'r awdurdodau cystadleuaeth weithio tuag at fwy o gysondeb a chydweithio yn rhyngwladol.
  • Mae polisi cystadleuaeth yn haeddu proffil uchel - oherwydd ei bwysigrwydd ar gyfer perfformiad economaidd.

Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi datganiad cenhadaeth - gan nodi ei hamcanion o ran polisi cystadleuaeth, a'r hyn y mae'n addo ei wneud i'w cyflawni. Bydd hyn yn helpu'r Senedd ac eraill i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei gweithredoedd.

AWDURDODAU CYSTADLEUAETH CRYF, PROACTIF AC ANNIBYNNOL


Mae'r Llywodraeth, y Swyddfa Masnachu Teg a'r Comisiwn Cystadleuaeth yn rhannu dealltwriaeth gyffredin o nodau ein cyfundrefn cystadleuaeth - cynyddu'r lefel o gystadleuaeth yn yr economi, gwella perfformiad cynhyrchiant y DU a sicrhau bod y marchnadoedd yn gweithio'n dda i ddefnyddwyr.

Mae'r Llywodraeth am weld awdurdodau cystadleuaeth cryf ac annibynnol sy'n gweithio mewn ffordd broactif i ddatgelu achosion o ymddygiad gwrthgystadleuol:

  • Bydd gan y Swyddfa Masnachu Teg ddyletswyddau cyfreithiol clir i hyrwyddo cystadleuaeth.
  • Mae'r Llywodraeth yn gwahodd ein hawdurdodau cystadleuaeth i'w chynghori ar effaith cyfreithiau a rheoliadau ar gystadleuaeth. Mae'r Llywodraeth yn ymrwymo ei hun i ymateb yn gyhoeddus o fewn 90 diwrnod.
  • Mae'r Llywodraeth yn croesawu cam y Swyddfa Masnachu Teg i gyflwyno "uwch-gwynion" gan grwpiau o ddefnyddwyr. Caiff y pwer newydd hwn ar gyfer grwpiau o ddefnyddwyr ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth.
  • Dim ond y rheini sydd ag arbenigedd sy'n berthnasol i gystadleuaeth a gaiff eu penodi i'r Comisiwn Cystadleuaeth. Dim ond y rheini sydd ag arbenigedd sy'n berthnasol i gystadleuaeth neu faterion yn ymneud â defnyddwyr a gaiff eu penodi i Fwrdd newydd y Swyddfa Masnachu Teg.
  • Bydd y Comisiwn Cystadleuaeth a'r Swyddfa Masnachu Teg yn gwella'r ffordd y cânt eu staffio - drwy recriwtio ar sail arbenigedd sy'n berthnasol i gystadleuaeth fel mater o drefn mewn perthynas â'r rheini sy'n gweithio ym maes cystadleuaeth.
  • Mae'r Llywodraeth yn gwahodd y Senedd i archwilio ein cyfundrefn cystadleuaeth yn fanwl. Bydd datganiadau cenhadaeth y Comisiwn Cystadleuaeth, y Swyddfa Masnachu Teg a'r Llywodraeth yn ei helpu i wneud hynny.

MODERNEIDDIO'R GYFUNDREFN UNO


Mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i gyflwyno cyfundrefn uno newydd:

  • Awdurdodau cystadlu annibynnol, yn hytrach na Gweinidogion, fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol.
  • Y prawf y byddant yn ei gymhwyso fydd p'un a fydd uno yn lleihau cystadleuaeth yn sylweddol yn hytrach na'r prawf budd i'r cyhoedd presennol.
  • Mewn achosion eithriadol, lle y bydd ystyriaethau cystadleuaeth yn awgrymu i'r gwrthwyneb, bydd yn bosibl i'r awdurdodau ganiatáu'r uno neu ganiatáu iddo fynd rhagddo gydag amodau llai llym pan fyddant o'r farn y bydd o fudd cyffredinol i ddefnyddwyr.
  • Bydd Gweinidogion yn parhau i benderfynu ar y lleiafrif bach o achosion sy'n codi materion eithriadol pendant sy'n ymwneud â budd i'r cyhoedd.
  • Ceir gwelliannau gweithdrefnol a gwelliannau eraill hefyd, gan sicrhau bod mwy o dryloywder yn y broses.

YMCHWILIO I FARCHNADOEDD


Bydd y Llywodraeth yn diwygio darpariaethau monopoli - gan eu disodli gyda phwer newydd i ymchwilio i farchnadoedd - gydag awdurdodau cystadleuaeth annibynnol yn gwneud y mwyafrif helaeth o benderfyniadau:

  • Bydd y Swyddfa Masnachu Teg yn gweithio mewn ffordd broactif i barhau i adolygu'r marchnadoedd - lle yr ymddengys nad yw'r marchnadoedd o bosibl yn gweithio'n dda, gall eu cyfeirio at y Comisiwn Cystadleuaeth i ymchwilio iddynt ymhellach.
  • Bydd y Comisiwn Cystadleuaeth yn cynnal ymchwiliad llawn - gan asesu'r farchnad yn erbyn prawf newydd yn seiliedig ar gystadleuaeth.
  • Y Comisiwn Cystadleuaeth ei hun fydd yn penderfynu pa atebion sydd eu hangen. Os bydd yn briodol, bydd yn gofyn i'r Swyddfa Masnachu Teg drafod ymgymeriadau ar ei ran.
  • O bryd i'w gilydd, er bod llawer o effeithiau cystadleuaeth anffafriol, mae'n bosibl y bydd y ffordd y mae marchnad yn gweithredu yn dod â manteision gwrthbwysol i ddefnyddwyr. Os bydd hyn yn wir, yna gall y Comisiwn Cystadleuaeth benderfynu peidio â chymryd camau neu addasu ei atebion.
  • Bydd Gweinidogion yn cadw'r pwer i benderfynu ar leiafrif bach iawn o achosion lle y bydd materion eithriadol pendant yn ymwneud â budd i'r cyhoedd yn codi.
  • Mae'n bosibl y bydd achos dros Weinidogion yn cadw rôl gyfyngedig mewn perthynas â remedïau amddifadu a argymhellir gan y Comisiwn Cystadleuaeth.

EFFAITH ATALIOL GREF


Caiff cartelau cadarn effaith andwyol iawn ar ddefnyddwyr ac ar yr economi yn gyffredinol. Mae'r Llywodraeth yn credu nad yw'r lefel bresennol o ddirwyon yn erbyn y rheini sy'n cymryd rhan mewn cartelau yn ddigon i'w hatal.

Ceir achos cryf dros gyflwyno cosbau troseddol yn erbyn unigolion sy'n cymryd rhan mewn cartelau cadarn:

  • Byddai angen i'r drosedd newydd ddal cartelau sy'n pennu prisiau, sy'n rhannu'r farchnad ac sy'n twyllo wrth gyflwyno cynigion.
  • Dylai dargedu unigolion sy'n sefydlu ac yn cynnal cartelau, a hefyd gweithredwyr neu gyfarwyddwyr sy'n cymeradwyo neu yn annog y trefniant.
  • Byddai manteision gwirioneddol pe byddai'r Swyddfa Masnachu Teg yn brif awdurdod erlyn.
  • Bwriad y Llywodraeth yw galluogi'r Swyddfa Masnachu Teg i ddwyn achos troseddol yn erbyn unigolyn lle bynnag y caiff cartél ei weithredu neu lle bynnag y bwriedir gweithredu cartél yn y DU - byddai hyn yn cynnwys achosion lle y caiff yr achos yn erbyn y cwmni ei ddwyn gan y Comisiwn Ewropeaidd.

IAWNDAL GWIRIONEDDOL I DRYDYDD PARTÏON


Mae gweithredoedd preifat yn rhan bwysig iawn o gyfundrefn cystadleuaeth effeithiol. Lle y ceir ymddygiad sy'n anghyfreithlon o dan gyfreithiau cystadleuaeth, dylai'r partïon a gaiff eu niweidio allu dwyn achos yn erbyn y troseddwyr - gan gael yr iawndal y maent yn ei haeddu.

  • Mae'r Llywodraeth yn bwriadu ehangu cylch gwaith Tribiwnlysoedd Apelio'r Comisiwn Cystadleuaeth drwy eu galluogi i wrando ar geisiadau am iawndal gan bartïon sydd wedi cael niwed.
  • Bydd hawl newydd i apelio wrth geisio mesurau dros dro o dan y Ddeddf Cystadleuaeth i atal ymddygiad gwrthgystadleuol tra bod yr achos yn cael ei ystyried.
  • Mae'r Llywodraeth yn bwriadu ddiddymu'r ffaith y caiff cytundebau fertigol eu gwahardd o dan y Ddeddf Cystadleuaeth.
  • Mae'r Llywodraeth yn credu y dylai grwpiau o ddefnyddwyr allu dwyn achos am iawndal ar ran defnyddwyr sydd wedi cael niwed oherwydd ymddygiad gwrthgystadleuol.
  • Bydd y Swyddfa Masnachu Teg yn gallu gofyn am orchymyn llys yn gwahardd cyfarwyddwyr cwmnïau lle y cafodd cyfraith cystadleuaeth ei thorri'n ddifrifol.

Y CAMAU NESAF


Mae'r Llywodraeth yn ymrwymedig i symud yn gyflym i weithredu'r Papur Gwyn hwn. Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer llawer o'r newidiadau a chânt eu gweithredu dros y misoedd i ddod.

Bydd y Mesur Menter arfaethedig yn gweithredu'r diwygiadau hynny lle mae angen deddfwriaeth ar eu cyfer. Mae'r Llywodraeth yn gwahodd sylwadau ar y cynigion a geir yn y Papur Gwyn hwn i lywio'r broses o ddrafftio'r Mesur Menter. Dylai'r sylwadau ddod i law erbyn 5 Hydref 2001.

Y broses ymgynghori
Cysylltu â Ni:
Byddai'n well gennym gael sylwadau ar e-bost. Dylid anfon sylwadau o'r fath at:
Fodd bynnag, os hoffech, gallwch anfon sylwadau at:
    Rachel Crisp
    Competition Reform White Paper
    Competition Policy
    Department of Trade and Industry
    1 Victoria Street
    London
    W1H 0ET
    Ffôn: 020 7215 0043
Cyfrinachedd:
Mae'n bosibl y caiff eich ymateb i'r Papur Gwyn hwn ei gyhoeddi'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn ôl disgresiwn yr Adran. Os nad ydych am i'ch ymateb cyfan neu ran o'ch ymateb (gan gynnwys eich enw) gael ei gyhoeddi, mae'n rhaid i chi nodi yn yr ymateb pa rannau yr hoffech i ni eu cadw'n gyfrinachol. Os na ofynnir am gyfrinachedd, mae'n bosibl y caiff ymatebion eu rhoi i unrhyw ymholwr, gan gynnwys ymholwyr o'r tu allan i'r DU, neu y cânt eu cyhoeddi mewn unrhyw fodd, gan gynnwys ar y rhyngrwyd.

 
previous page contents next page

We welcome your comments on this site. Prepared 30 July 2001