Adroddiad PGASE Crynodeb |
1. Y Cyd-Destun
Ar 15 Chwefror 1996 aeth y Sea Empress, a oedd yn dod ag olew crai i Milffwrd yn ne-orllewin Cymru, ar y creigiau a thros yr wythnos ganlynol gollyngodd 72,000 tunnell fetrig o olew crai a 480 tunnell fetrig o olew tanwydd i’r môr. Er gwaethaf ymateb buan ac effeithiol ar y môr i glirio a glanhau, daeth olew i’r lan ar hyd 200 cm o arfordir – llawer ohono mewn Parc Cenedlaethol – mewn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfrif ei fywyd gwyllt a’i brydferthwch naturiol. Gosodwyd gwaharddiad ar bysgota masnachol ac adloniadol yn y rhanbarth ac roedd pryder y byddai twristiaeth, sy’n bwysig i’r economi lleol, yn cael ei effeithio’n andwyol gan y traethau a oeliwyd yn drwm. Cafodd rhai miloedd o adar oeliog eu golchi i’r lan, gan arwain at ymgyrch mawr o lanhau a adfer.
Crynodeb yw hwn o’r adroddiad ar y gorlif a baratowyd gan Bwyllgor Gwerthuso Amgylcheddol y Sea Empress (PGASE), pwyllgor annibynnol a sefydlwyd ar 27 Mawrth 1996 gan lywodraeth y DGgyda’r amodau gorchwyl wedi’u rhestri ym mhocs 1.
Mae adroddiad llawn y pwyllgor yn disgrifio’r effaith mae’r olew wedi ei gael ar yr amgylchedd, ar y môr ac ar hyd yr arfordir. Mae’n edrych ar yr ymateb i’r gorlif – yr ymgyrch glanhau, y rhaglen monitorio amgylcheddol a glanhau adar oeliog – ac yn argymell newidiadau yn y trefniadau i asesu ac ymateb i orlifoedd yn y dyfodol.
Dros gyfnod o 20 mis, daeth PGASE â thimau o arbenigwyr at ei gilydd a chomisiynu tua 80 astudiaethau gwyddonol yn cynnwys y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, prifysgolion, mudiadau gwirfoddol, sefydliadau ymchwil a chwmnïau yn arbenigo mewn gorlifoedd olew ac asesu ecolegol. Bu i ganlyniadau’r astudiaethau hyn ynghyd ag ymchwil gynt i ecoleg yr ardal – a gwaith a wnaed gan gyrff eraill – ddarparu gwybodaeth ar gyfer yr adroddiad hwn.
Bocs 1 Amoudau gorchwyl PGSAE:
- Cyd-drefnu gwaith monitorio a wnaed gan adrannau llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i asesu effaith amgylcheddol gorlif olew y Sea Empress a’r gweithredu glanhau dilynol.
- Sicrhau y ceir set gynhwysfawr o ddata ar ddosraniadau ac effeithiau amgylcheddol, gan gymryd i ystyriaeth astudiaethau gan fudiadau eraill a’r angen am osgoi bylchau a gorgyffyrddiadau.
- Trwy’r rhaglenni monitorio hyn, asesu effaith gyfan gwbl y digwyddiad ar adnoddau amgylcheddol yr ardal a effeithiwyd, yr adnoddau hyn i gynnwys pysgodfeydd, amaethyddiaeth, cadwraeth amwynderau a bywyd gwyllt, ac asesu adferiad dilynol yr adnoddau hyn. Bydd gwybodaeth am ddosbarthiad llygrwyr sy’n berthnasol i iechyd dynol yn cael ei gyflwyno i awdurdodau iechyd cyhoeddus i’w hasesu.
- Cyhoeddi prif ddyfarniadau a chasgliadau’r astudiaethau hyn gyda’r amcan o hysbysu’r Llywodraeth, y cyhoedd a’r grwpiau penodol hynny a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y digwyddiad. Gwneir argymhellion lle mae angen gwelliannau mewn gweithdrefnau neu weithredu pellach, a allai fod ‰ chymhwysiad ehangach.
|
Ymchwiliwyd i’r ddamwain ei hun a’r ymgyrch arbediad gan Adran Ymchwilio Damweiniau Morol Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau (DETR) a gyhoeddodd ei hadroddiad yng Ngorffennaf 1997. Cynhyrchodd yr Uned Rheolaeth Llygredd Morol (MPCU) adroddiad manwl am yr ymgyrch glanhau. Yn fuan wedi’r gorlif, comisiynodd Cyngor Sir Penfro, gyda chefnogaeth cyrff cyhoeddus eraill, astudiaeth o’i ganlyniadau economaidd potensial. Mae ymchwiliad i effeithiau’r gorlif ar iechyd y cyhoedd yn cael ei wneud gan Awdurdod Iechyd Dyfed Powys ac mae adroddiad wedi ei gyhoeddi.
Cychwynnodd gwaith monitorio i asesu’r effaith wreiddiol yn fuan wedi tirio’r tancer, ac fe ychwanegodd PGASE at y gwaith hwn gyda rhaglen o astudiaethau mwy tymor-hir. Yr oedd yn amhosibl ymdrin â phob agwedd o ecoleg y rhanbarth, ond cynhwyswyd yn y rhaglen yr holl brif fathau o amgylchoedd artraethol a morol, gan ganolbwyntio ar rywogaethau allweddol a oedd
- wedi eu heffeithio’n drwm gan yr olew
- yn arwydd o iechyd yr amgylchedd
- bwysigrwydd cadwriaethol i’r ardal
- yn bwysig yn y gadwyn fwyd morol, neu
- werth economaidd
Cafodd y rhaglen ganlyniadol o tua 80 o brosiectau a awgrymwyd gan PGASE– yn costio tua £2 filiwn – ei hariannu gan y llywodraeth a’i asiantaethau gyda chefnogaeth awdurdodau lleol, y Comisiwn Ewropeaidd (EC), mudiadau gwirfoddol a diwydiant.
Mae de-orllewin Cymru yn ardal o harddwch naturiol a diddordeb ecolegol arbennig. Mae tua thri chwarter yr arfordir yn glogwyni creigiog, craig-lwyfannau, clogfeini a graean bras, gyda mwyafrif y gweddill yn gynefinoedd llaid a thywod, yn cynnwys rhai traethau tywod o werth amwynderol uchel. Mewn cydnabyddiaeth o bwysigrwydd amgylcheddol y rhanbarth, rhoddwyd i lawer ardal statws cenedlaethol a rhyngwladol arbennig. Mae llawer o’r arfordir oddi mewn i Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn y brif ardal a effeithiwyd gan y gorlif mae tua 35 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 2 Warchodfa Natur Cenedlaethol (Stackpole a Sgomer) ac, o amgylch Sgomer, un o dair Gwarchodfa Natur Morol y DG. Mae hefyd Ardaloedd Arbennig Diogelu Adar a ddynodir gan yr EC, a thair Ardal Gwarchodaeth Arbennig a arfaethir gan y llywodraeth.
Prif drefydd de-orllewin Cymru yw Caerfyrddin (poblogaeth 14,600), Milffwrd (13,600), Hwlffordd (13,000), Doc Penfro (8,600) a Phenfro (7,200). Mae’r economi lleol yn wynebu problemau yn dilyn cau sefydliadau diwydiannol ac amddiffyn sylweddol ac, oherwydd dirywiad y sectorau prosesu olew ac amaethyddol, mae graddfeydd diweithdra ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Dibynna economi’r rhanbarth yn helaeth ar ychydig o ddiwydiannau allweddol, yn enwedig olew, twristiaeth, amaethyddiaeth a physgota.
Mae twristiaeth yn chwarae rôl hanfodol, gyda llawer o ymwelwyr yn aros yng nghyffiniau Dinbych y Pysgod a Saundersfoot. Cynigir cyfleoedd ar gyfer addysg amgylcheddol gan ganolfannau astudiaethau maes. Yn 1995 amcangyfrifir bod twristiaid wedi gwario £160 miliwn yn Sir Benfro.
Canolir y diwydiant pysgota o amgylch dyfrffordd Milffwrd. Ceir yn y rhanbarth ddigonedd o bysgod cregyn, crancod, draenogiaid y môr a physgod eraill, ac mae’r afonydd brithyllod môr ac eog yn denu llawer o bysgotwyr ymweliadol. Amcangyfrifir bod y pysgodfeydd hyn yn darparu 1,000 o swyddi ar dir a môr. Mae amaethyddiaeth yn y rhanbarth yn cynnwys tatws cynnar a llysiau, ffermio llaeth a da byw.
Mae hanes hir i ddyfrffordd Milffwrd fel porthladd olew, a ddatblygwyd yn ystod y 1950au ar gyfrif ei ddyfroedd dwfn a’i gysgodfa naturiol – nodweddion sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer tanceri mawrion. Er iddo fod y porthladd mwyaf prysur ond un ym Mhrydain ar gyfer cynhyrchion petrolewm, mae costau trafnidiaeth uchel o Sir Benfro wedi peri i’r purfeydd olew fod yn llai cystadleuol yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn.
2. Tynged yr Olew
Dros gyfnod o saith diwrnod – tra oedd y Sea Empress ar y creigiau y tu allan i fynedfa dyfrffordd Milffwrd – rhyddhawyd tua 72,000 tunnell fetrig o olew crai ysgafn, yn bennaf ar adeg y trai. Ar yr un adeg rhyddhawyd tua 250 tunnell fetrig o olew tanwydd trwm (a ddefnyddid i yrru peiriant y llong) gan gymysgu yn ôl pob tebyg â’r olew crai; rhyddhawyd 230 tunnell fetrig pellach wedi i’r tancer gael ei dynnu i lanfa oddi mewn i’r ddyfrffordd.
Tra oedd y tancer ar y creigiau, amrywiodd y gwynt rhwng awel ysgafn a thymestl ac i gychwyn (15-17 Chwefror) gyrrwyd yr olew a ryddhawyd tuag at Milffwrd. O 18 i 22 Chwefror (cyfnod pryd y rhyddhawyd tua 90% o’r olew) cariodd y gwyntoedd yr olew tua’r de, i ffwrdd o arfordir Sir Benfro, gan ganiatáu i wasgarwyr cemegol gael eu defnyddio i wasgaru’r olew i dwfn. Ar 23 Chwefror trodd y gwynt i’r de-orllewin a thros yr ychydig ddyddiau nesaf cariwyd yr olew oedd yn weddill i draethau Bae Caerfyrddin o Ddinbych y Pysgod i Bentywyn.
Mae olew crai yn gymysgedd o nifer mawr iawn o wahanol gyfansoddion. Dangosodd profion yn y gorlif fod tua 40% o’r olew – gan gynnwys llawer o’r cyfansoddion sy’n wenwynig i fywyd morol – wedi anweddu’n gyflym ar ôl cael ei ryddhau. Yn ystod llawer o’r cyfnod hwn roedd y gwyntoedd alltraeth. Cafodd crynodiadau anwedd olew eu mesur trwy’r amser ar y traeth, ond roeddynt yn isel, yn cyrraedd mwyafswm o 9 rhan y filiwn (rhyf). (Cytunasid y byddid yn gweithredu, er enghraifft cynghori pobl i aros dan do, petai crynodiadau yn codi yn uwch na 50 rhyf). Cadarnhaodd model rhagfynegol y byddai crynodiadau o anwedd olew dros y tir yn isel oherwydd bod cyfeiriadau’r gwynt yn ffafriol yn gyffredinol.
Gwasgarodd tua 50% o’r olew yn y golofn
, o ganlyniad i gymysgu naturiol a’r defnydd o 446 tunnell fetrig o wasgarwyr a chwistrellwyd ar yr olew o awyrennau. Cynyddodd y gwasgarwyr effeithiolrwydd y prosesau naturiol drwy achosi i’r olew ffurfio defnynnau bychain a chymysgu â’r , gan leihau yn sylweddol swm yr olew ar yr wyneb ond gan gynyddu crynodiadau yn nyfnder y môr. Yn gyffredinol roedd yr olew a arosai ar wyneb y yn ffurfio emylsiwn (cymysgedd sefydlog o tua 70% o a 30% o olew) a oedd yn atal y broses gwasgaru naturiol, er roedd monitorio o gychod yn yr ardal lle chwistrellwyd y gwasgarwyr yn cadarnhau effeithiolrwydd y gwasgarwyr hyd yn oed ar yr emylsiwn. Yn ychwanegol at yr ymgyrch gwasgaru, casglwyd tua 1-2% o’r olew oddi ar wyneb y gan longau adferiad.
Mae olew yn gynnyrch naturiol ac yn y pendraw fe fydd y rhan fwyaf ohono wedi cael ei dorri i lawr gan ficro-organebau yn y . Erbyn diwedd Mawrth roedd crynodiadau olew yn y golofn yn isel (llai na 100 mg/l) ac yn agos at lefelau cefndir ar draws yr ardal a effeithiwyd.
Cynhaliwyd arolygon alltraeth helaeth er mwyn penderfynu a oedd olew wedi cyfuno â gronynnau gwaddod ac wedi eu dyddodi ar wely’r môr. Ni ddaethpwyd o hyd i grynodiadau olew sylweddol, heblaw am yn agos i rai traethau lle’r oedd swmp o olew wedi aros am gyfnodau hir.
Daeth olew i’r traeth ar hyd 200 cm o arfordir, gyda’r ardaloedd a effeithiwyd waethaf o fewn dyfrffordd Milffwrd ac ar hyd arfordir de Sir Benfro. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod rhwng 3,700 a 5,300 tunnell fetrig wedi dod i’r lan (5-7% o’r cyfanswm) a hynny’n gostwng i tua 500 tunnell fetrig erbyn diwedd yr haf o ganlyniad i ymgyrch sylweddol i lanhau’r draethlin. Cafodd llawer o’r hyn a oedd yn weddill erbyn diwedd yr haf ei gladdu dan yr wyneb.
3. Effeithiau Morol
Fel mesur rhagofalus, yn fuan wedi’r gorlif gosodwyd gwaharddiad ar bob pysgota a chasglu planhigion a gwymon bwytadwy mewn ardal yn ymestyn o Benrhyn Dewi i Borth Eynon ar Benrhyn (gweler map). Hefyd gwaharddwyd pysgota am eog a brithyll môr yn yr afonydd sy’n llifo i’r ardal hon. Cafodd samplau o amryfal rywogaethau o bysgod, pysgod cregyn a chramenogion eu dadansoddi am gynnwys olew dros y misoedd dilynol, a chodwyd y gwaharddiadau mewn camau wrth i’r dadansoddi ddangos bod crynodiadau mewn dosbarthiadau amrywiol o organebau wedi dychwelyd i lefelau cefndir. I bob golwg ni effeithiwyd ar eogiaid a brithyll môr a chodwyd y gwaharddiad arnynt ar 3 Mai 1996, a chodwyd y gwaharddiadau ar bysgod eraill ar 21 Mai 1996. Codwyd y gwaharddiad ar grancod a chimychiaid y tu allan i ddyfrffordd
Milffwrd ac ar wichiaid moch trwy’r holl ardal ar 29 Awst 1996, a thros y flwyddyn ganlynol codwyd y gwaharddiadau yn gynyddol mewn camau hyd nes i’r holl gyfyngiadau a
oedd yn weddill gael eu diddymu ar 12 Medi 1997.
Tra nad oedd unrhyw dystiolaeth eglur o ddifrod i stociau masnachol o bysgod, bydd angen monitorio estynedig – yn enwedig o unigolion wrth iddynt gyrraedd maint y gellir manteisio yn fasnachol arno – er mwyn penderfynu a oedd bridio a recriwtio rhai rhywogaethau (yn cynnwys draenogiaid y môr, crancod bwytadwy, cimychiaid a gwichiaid moch) yn llwyddiannus wedi’r gorlif yn 1996.
Yn y Tywi gostyngodd graddfa dal brithyll môr – er nid eog – yn 1996, ond mae angen dadansoddiad pellach o ddata dal o afonydd eraill cyn y gellir priodoli’r gostyngiad hwn i’r gorlif.
Yn yr wythnosau yn dilyn y gorlif golchwyd i’r lan niferoedd mawrion o anifeiliaid marw neu ar farw – gan mwyaf molysgiaid dwygragenog (megis cocos a chyllyll môr) ac anifeiliaid sy’n trigo mewn gwaddod yn y traeth isaf a than y draethlin. Gall y ffenomen hon ddigwydd yn naturiol gyda rhai rhywogaethau, ond roedd yr amseru, nifer yr unigolion, ystod y rhywogaethau ac mewn rhai achosion lefelau uwch o hydrocarbonau meinwe yn awgrymu bod mwyafrif y tiriadau yn ymwneud â dod i gysylltiad â’r olew. Dangosodd astudiaethau o wely’r môr nad oedd fawr ddim o effaith o ganlyniad i’r gorlif heblaw am absenoldeb deudroediaid (cramenogion bychain sy’n bwysig yn y gadwyn fwyd) mewn rhai ardaloedd yn agos at safle’r gorlif. Cofnodwyd marwolaethau deudroediaid a thiriadau molysgiaid yn dilyn gorlifoedd olew sylweddol eraill. Fe allai bod y defnydd o wasgarwyr, wrth wasgaru defnynnau olew yn ddwfn i’r golofn , wedi cynyddu’r cysylltiad ag olew yn achos y rhywogaethau hynny sy’n byw mewn gwaddodion a chyfrannu at y tiriadau a’r gostyngiad ym mhoblogaethau deudroediaid yn rhai ardaloedd.
4. Effeithiau ar y Traethlin
Lladdwyd niferoedd mawrion o lygaid meheryn ar draethau creigiog a oeliwyd yn drwm ger safle’r tirio, gyda’r marwolaethau yn 90% yn rhai rhannau o Fae Angle. Bu farw cregyn crib a gwichiaid hefyd, er mewn niferoedd llai. O ganlyniad i leihad mewn pori gan yr anifeiliaid hyn, bu tyfiant helaeth o algae (algae gwyrdd ar y cyfan) a rwystrodd larfae cregyn llong rhag sefydlu yn rhai safleoedd. Mae proses adferiad y llygaid meheryn a phoblogaethau’r molysgiaid eraill wedi dechrau ond, o brofiad gorlifoedd blaenorol, mae adferiad llwyr yn debygol o gymryd sawl blwyddyn yn y safleoedd a effeithiwyd waethaf.
Roedd marwolaethau y deudroediaid yn ymestyn dros ardal eang ond roedd ail-wladychu sylweddol yn amlwg ym mwyafrif y safleoedd erbyn 1997. Mynegwyd pryder mawr ynglyn â’r effaith ar y sêr clustog prin ym Mae Angle am fod y boblogaeth hon o gryn bwysigrwydd yn gadwraethol. Er gwaethaf marwolaethau a ostyngodd boblogaethau i niferoedd isel iawn, mae adferiad araf yn digwydd bellach. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw effaith ddifrifol arall ar gymdogaethau traethau creigiog na phyllau trai.
Mae’r effeithiau ar draethau gwaddodol yn gyffredinol yn llai hawdd i’w canfod gan fod mwyafrif yr anifeiliaid yn guddiedig, ond roedd tiriadau nifer o rywogaethau dwygragenog yn amlwg wedi’r gorlif ac fe effeithiwyd poblogaethau deudroediaid. Manteisiodd rhai rhywogaethau oportiwnistaidd megis mwydod gwrychog ar gilfachau ecolegol gweigion a chynyddu mewn niferoedd dros dro, ond roedd tystiolaeth o adferiad y cydbwysedd blaenorol erbyn diwedd yr hydref 1996.
|
|