
Rhagair gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae'r Papur Gwyn Gwledig hwn yn nodi gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymru wledig. Ein hardaloedd gwledig yw rhai o'n hasedion gorau. Hynodrwydd yr ardaloedd hyn yw eu golygfeydd godidog, ac maent yn gefndir i fywyd llawer o gymunedau, gan gynnal nid yn unig teuluoedd a busnesau ond hefyd amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae'r hynodion gweledol a'r seiniau sy'n perthyn i fywyd cefn gwlad yn rhan oesol o'r ffordd y mae pobl wedi byw ac wedi gweithio ers canrifoedd ond nid yw'n fywyd digyfnewid yn ei hanfod. Mae ein trefi marchnad a'n pentrefi yn deillio o'r ffaith mai yma y deuai pobl ynghyd i fasnachu ac mae cyfuchliniau'r tirlun ei hun wedi'u ffurfio a'r tirnodau wedi'u gosod gan ganrifoedd o weithgarwch economaidd.
Economi gwledig bywiog a chryf yw'r allwedd i amgylchedd iach, ac nid yn faen tramgwydd iddo. Yn y papur hwn, yr ydym wedi ceisio darganfod ffyrdd i ymwared â baich tâp coch ar ffermwyr a busnesau gwledig, i ail-greu'r ysbryd holl-bwysig hwn, sef menter mewn llawer o'n cymunedau gwledig fel y gall pobl leol adeiladu busnesau a chreu swyddi. Menter sy'n gwneud byw yng nghefn gwlad yn bosibl ac yn helpu i greu'r ymdeimlad hwnnw o barhad a chymuned yr ydym i gyd yn eu trysori.
Nid lle i weithio yn unig yw'r gymuned wledig. Mae hefyd yn lle i fywyd teuluol ac yn lle i ddysgu. Dyma pam yr ydym wedi cymryd camau i hybu tai fforddadwy, i gadw ysgolion y pentref ar agor, i helpu neuadd y siop y pentref. Mae'r sefydliadau hyn yn aml yn darparu rhwydwaith gwerthfawr o gysylltiadau sy'n dod â chymunedau ynghyd. Yr ydym yn awyddus i'w cefnogi.
Yr ydym hefyd wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Gymru wledig. Yn y papur hwn, yr ydym wedi nodi ffyrdd newydd o gefnogi a gwella gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.
Rhaid hefyd cysylltu'r Gymru wledig â'r mannau poblog os bwriedir iddi oroesi a ffynnu. Yr ydym yn benderfynol o fanteisio'n llawn ar botensial y diwydiant twristiaeth a'r diwydiant bwyd. Rhaid hefyd caniatáu i fentrau a thechnolegau newydd dyfu a llewyrchu. Yn benodol, mae'r oes wybodaeth yn cynnig cyfnod newydd o obaith a chyfle i lawer o ardaloedd gwledig. Yn wahanol i unrhyw chwyldro economaidd arall, mae'n addo gwneud safle daearyddol yn amherthnasol a bydd yn agor rhwydwaith cyfathrebu enfawr, gan gysylltu ardaloedd gwledig â phobl a busnesau ledled y byd.
Dylai'n hamgylchedd gwledig fod yn endid byw sy'n cysylltu'n hynafiad â'r byw. Dylai'n stiwardiaeth ein galluogi i drosglwyddo'r dreftadaeth hon ymlaen i genedlaethau'r dyfodol. Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn chwarae rhan ganolog yn hyn o beth, fel y bydd llawer un arall, gan gynnwys llywodraeth leol a'r sector breifat.
Mae'r Papur Gwyn hwn yn rhoi arweiniad ar gyfer dyfodol y Gymru wledig. Mae ei ddatganiadau polisi yn dangos ein hymroddiad i'r economi gwledig, ac i'r amgylchedd. Mae'n ofynnol i bob un ohonom wneud defnydd ohono i warchod a gwella ein hetifeddiaeth gyffredin. 
Y Gwir Anrh, William Hague AS
|