Pennod 1 - Nodweddion allweddol/proffil o'r
Cyflwyniad
Mae ardal Amcan 1 y Gorllewin a'r Cymoedd yn cwmpasu cyrion gogledd, gorllewin a de orllewin Cymru, ynghyd â chymoedd diwydiannol gynt De Cymru. Mae'n ardal eang sy'n cynnwys awdurdodau unedol Abertawe, Blaenau Gwent, Caerfyrddin, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Tor-faen ac Ynys Môn. Mae'n ardal o 1,312,900 hectar, (63.2% o holl dirwedd Cymru) gyda phoblogaeth o 1,907,195 (cyfrif 1996).
Rhai o'r priodoleddau sy'n gwneud yr ardal hon yn unigryw yw ei natur amrywiol, ei heconomi, ei diwylliant a'i hamgylchedd. Yn anffodus mae hefyd dan anfantais ac yn cael ei gwthio i'r cyrion oddi wrth amryw o'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol, oherwydd ei bod mor bellenig.
Ymhlith nodweddion yr ardal, ceir :
Nodweddion Economaidd:
- Cynnyrch Domestig Gros (CDG) hynod o isel ac sy'n dal i ostwng fesul pen o'r boblogaeth, o'i gymharu â chyfartaledd y GE. Ym 1996, 73% o gyfartaledd yr UE oedd CDG y rhanbarth. Mae gan rai rhannau o'r rhanbarth CDG sy'n werth llawer llai na'r ffigwr hwn ffigwr Canolbarth y Cymoedd yw 64% o gyfartaledd yr UE, ac ar gyfer Ynys Môn, 68% o gyfartaledd yr UE.
- lefelau diweithdra uchel iawn, yn enwedig dros y tymor hir mewn rhannau o'r rhanbarth o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru a'r DU.
- graddfeydd gweithgarwch economaidd sy'n gostwng.
- lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol gyda 82 allan o'r 100 o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi eu lleoli yn y Gorllewin a'r Cymoedd, yn ôl Mynegai'r Swyddfa Gymreig o Gyflwr Cymdeithasol-Economaidd.
- gorddibyniaeth ar ddiwydiannau sy'n dirywio yn y rhannau sydd ar gyrion y rhanbarth e.e. ynni, amddiffyn, llechi a phurfeydd olew.
- rhanbarth sydd dan ddylanwad rôl allweddol y diwydiant amaeth ac sy'n dioddef oherwydd gostyngiad yn incwm y ffermydd ac argyfwng y BSE.
- nifer cymharol fychan o fusnesau cynhenid, deinamig, canolig eu maint sydd â'r potensial i dyfu. Mae strwythur economaidd arfordir y Gorllewin dan ddylanwad mân fusnesau sydd naill ai â gallu neu awydd cyfyngedig i dyfu. Mae strwythur economaidd y Cymoedd dan ddylanwad diwydiannau cynhyrchu tramor.
- rhanbarth sy'n economaidd ynysig - Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dioddef gan lwybrau cyswllt mewnol ac allanol gwael gyda marchnadoedd gweddill y DU ac Ewrop. Ni cheir o fewn y rhanbarth yr un maes awyr sy'n cynnig gwasanaethau rheolaidd wedi'u hamserlennu, a difethir unrhyw gysylltiadau fferi da gydag Iwerddon gan brinder y gwasanaethau rheilffordd a rhwydwaith gwael o lonydd. Ynysir cymunedau unigol gan drafnidiaeth gyhoeddus gwael a chan rwystrau daearyddol.
Nodweddion Cymdeithasol:
- hunaniaeth ddiwylliannol gref gyda rhannau sydd â rhagor na 54% o'r boblogaeth sy'n siarad y Gymraeg o'i gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan o 20%. Mae'r traddodiad diwylliannol hwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygiadau economaidd.
- oherwydd cyflogau isel a nifer cyfyngedig o gyfleoedd i sicrhau cyflogaeth, mae'r ardal yn hefyd yn wynebu cael ei heithrio oherwydd prinder nwyddau a gwasanaethau megis trafnidiaeth, addysg-iechyd a darpariaethau eraill sy'n dir ywio'n arw.
- mudo - cyfrannodd y problemau hyn i gyflwr o ddadrithio, morâl isel ac eithrio cymdeithasol. Amlygir y rhain gan y ffaith fod pobl ifanc yn mudo'n rheolaidd er mwyn chwilio am waith a chyfleoedd, sy'n tanseilio cynaliadwyedd cymunedau y Gorllewin a'r Cymoedd.
- ceir o fewn llawer o drefi mawrion ac ardaloedd trefol rannau sylweddol o amddifadedd cymdeithasol a materol gyda diweithdra uchel, gorboblogi a chanran uchel o rieni sengl.
- dwysheir yr eithrio cymdeithasol yn fwy yn yr ardaloedd gwledig oherwydd yr arwahanrwydd ar ffaith fod yr ystod llawn o gyfleoedd allan o gyrraedd pobl, yn ogystal â'r problemau cynyddol sy'n dilyn dir ywiad y sector amaethyddol.
Nodweddion Amgylcheddol:
- cyfoeth o amgylchedd mewn perygl -Mae amgylchedd y Gorllewin a'r Cymoedd o ansawdd uchel iawn, gan gynnwys tri Pharc Cenedlaethol, sef Eryri, Arfordir Sir Benfro a Bannau Brycheiniog. Ac eto, mae hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr a ddifrodwyd gan weithgarwch diwydiannau trymion y gorffennol. Yn sgil dir ywiad byd amaeth, crewyd ffermydd mwy o ran eu maint, sy'n bygwth natur neilltuol cefn gwlad Cymru.
- mae'r amgylchedd yn nodwedd allweddol i'r rhanbarth nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd fel ased economaidd yn nhermau twristiaeth a buddsoddiad mewnol.
- mae nodweddion ffisegol y rhanbarth yn amrywiol, ond amaethyddiaeth o hyd yw'r prif ddefnydd a wneir o'r tir, tra bo cefn gwlad o hyd yn adnodd hanfodol, nid yn unig i'r economi, ond hefyd yn gymdeithasol.
Proffil o'r Ardal
2.1 TIRWEDD
Adlewyrchir ffiniau ardal y Gorllewin a'r Cymoedd yn ei daearyddiaeth ffisegol. Mynyddig yw'r ffiniau sydd rhwng y Gorllewin a'r Cymoedd, ar y naill law, a Dwyrain Cymru ar y llaw arall, ac fe'i hamgylchynir gan y môr i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a'r de orllewin. Cyfuniad yw'r tir ei hun o fryniau a mynyddoedd, gan gynnwys gwastadeddau'r arfordir ym Mhenrhyn Gˆwyr, rhannau deheuol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Penrhyn Llˆyn, Ynys Môn a godreon arfordir Gogledd Cymru. Mae'r ffin fynyddig i'r dwyrain wedi chwarae rhan sylweddol yn natur ynysig economi y Gorllewin a'r Cymoedd, a hefyd yn nhreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth.
Draenir mynyddoedd Cymru gan wahanol systemau o afonydd. Cyn gallu deall hanes economaidd yr ardal, mae'n hanfodol i r ywun werthfawrogi daeareg y Gorllewin a'r Cymoedd.
2.2 DEMOGRAFFEG, CYMDEITHAS A DIWYLLIANT
2.2.1 Tueddiadau Poblogaeth
[Heb ei gwblhau - bydd yn cynnwys dadansoddiad o'r newidiadau yn strwythur oedran y boblogaeth, tueddiadau mudo, graddfeydd genedigaethau a marwolaethau.]
2.2.2 Amddifadedd Cymdeithasol a Thlodi
Mae'r ardal yn dioddef gan raddfa uchel o amddifadedd cymdeithasol mewn ardaloedd penodol. Ceir wyth deg a dau allan o 100 o'r wardiau a amddifadwyd fwyaf yng Nghymru y Gorllewin a'r Cymoedd yn ôl Mynegai'r Swyddfa Gymreig o Gyflwr Cymdeithasol Economaidd. O'r cyfanswm hwn, mae 73 yn y Cymoedd. Mae hyn yn cyfuno â'r raddfa uchel o ddiweithdra ac afiechyd sy'n gyson uwch na chyfartaledd gweddill Cymru a'r DU.
2.2.3 Iechyd
Ar y cyfan, mae cyflwr iechyd pobl Cymru yn waeth nag ydyw yn Lloegr, ond mae cyflwr iechyd llawer o rannau o'r Gorllewin a'r Cymoedd yn sylweddol waeth nag ydyw yng ngweddill Cymru. Mae hyd bywyd disgwyliedig rhai o'r cymunedau hyn hyd at bum mlynedd yn llai nag ydyw i rannau mwy breintiedig o Gymru, a chododd y raddfa marwolaethau cynamserol o 48% i 69% yn ystod y ddegawd 1981 i 1991. Gellir mesur y bwlch mewn iechyd nid yn unig wrth gyfrif marwolaethau, ond hefyd o safbwynt ansawdd bywyd a chysur pobl yn gyffredinol.
Mae'n hysbys, er enghraifft, yn dilyn Arolwg Iechyd Cymru ym 1995, fod pobl o'r Cymoedd yn goddef iechyd corfforol a meddyliol sy'n sylweddol waeth nag ydyw mewn rhannau eraill o Gymru. Mae'n hysbys hefyd o amrywiol ffynonellau eu bod yn dioddef lefelau uchel iawn o salwch tymor hir, sydd yn ei dro yn golygu eu bod yn gadael y farchnad lafur, i fyw yn economaidd segur dan nawdd budd-daliadau.
Er bod cyfres o ffactorau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau iechyd (megis y gwasanaethau sydd ar gael, hygyrchedd, ansawdd a chanfyddiadau cleifion) yn dylanwadu ar y diffyg cydraddoldeb hwn, mae'r gwahaniaeth yn achosion y salwch yn bwysicach o'r hanner. Credir eu bod yn cynnwys cyfuniad o amddifadedd cymdeithasol ac economaidd, hanes galwedigaethol, diweithdra uchel, llety gwael, amgylchedd wedi'i lygru, enghreifftiau lu o arferion byw afiach, a'r ffaith fod dewisiadau o fwydydd iach allan o gyrraedd y boblogaeth.
2.2.4 Gweithgarwch Gwirfoddol yn y Gymuned
Ceir o fewn y rhanbarth draddodiad cryf o weithgarwch gwirfoddol, cydymddibyniaeth a hunan-gymorth. Nodwyd a dosbarthwyd dros 11,000 o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol yn Rhanbarth y Gorllewin a'r Cymoedd sy'n gweithredu ar lefelau awdurdod lleol neu'n fwy lleol fyth - yn ogystal â sefydliadau mwy sy'n gweithredu ar sail ranbarthol neu genedlaethol. Mae sefydliadau o'r fath yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl a'r materion dan sylw, ac yn ymateb i'r anghenion cymdeithasol a'r anfanteision economaidd. Maent yn adnodd gr ymus wrth hyrwyddo cymdeithas gynhwysol ac ail strwythuro ffyniant economaidd a chymdeithasol. Ond mae'r boblogaeth wasgaredig a geir yn yr ardaloedd gwledig yn ei gwneud gymaint yn fwy anodd i'r sectorau gwirfoddol ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr ac effeithiol, o'i gymharu â'r ardaloedd trefol, lle ceir trwch y boblogaeth.
2.2.5 Iaith a Diwylliant
Mae iaith yn elfen hanfodol sy'n cynnal hunaniaeth y rhanbarth. Y Gymraeg yw un o ieithoedd lleiafrifol mwyaf bywiog yr Undeb Ewropeaidd, ond mae yna bryder am ei dir ywiad yn rhannau o'r rhanbarth. Yn ôl cyfrifiad 1991, 508,098 oedd nifer y siaradwyr Cymraeg - 18.7% o'r boblogaeth. Ond mae cadarnleoedd traddodiadol yr iaith i'w cael yn llwyr o fewn ardal y Gorllewin a'r Cymoedd gyda bron 75% o'r siaradwyr Cymraeg yn byw o fewn y rhanbarth hwn. Mae Tabl 1 yn dangos pa gyfran o'r siaradwyr Cymraeg 3+ oed sy'n byw o fewn ardal y Gorllewin a'r Cymoedd. Mae'n dangos amrywiaeth eang rhwng yr ardaloedd gwledig a diwydiannol, ac yn amlygu'r cyswllt sydd rhwng yr iaith a'r cymunedau amaethyddol, a fu yn ôl traddodiad yn gadarnle iddi. Mae hefyd yn amlwg mai'r bobl ifanc, ar y cyfan, yw mwyafrif y siaradwyr Cymraeg. Er gwaethaf hyn, mae'r pr yder yn aros. Ymddengys fod y dirywiad ymhlith cadarnleoedd traddodiadol yr iaith yn parhau o ganlyniad i nifer o ffactorau cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig, gan gynnwys mudo oherwydd yr economi, a'r diffyg parhaus o gyfleoedd priodol yn lleol. Mae gan y Gorllewin a'r Cymoedd draddodiad diwylliannol hynod o gyfoethog drwy gyfrwng nid yn unig yr iaith Gymraeg ond hefyd y Saesneg.
Tabl 1 - Cyfran y Siaradwyr Cymraeg yn y Gorllewin a'r Cymoedd
| Sir | Strwythur Oedrannau | Cyfanswm
| | 3-15 | 16-44 | 45-64 | 65+ | |
| Gwynedd | 90.9 | 75.6 | 65.6 | 68.4 | 74.3 |
| Ynys M(tm)n | 78.1 | 62.5 | 57.4 | 55.9 | 62.6 |
| Ceredigion | 76.8 | 57.8 | 53.9 | 62.7 | 60.9 |
| Sir Gaerfyrddin | 56.5 | 46.0 | 53.0 | 65.3 | 53.5 |
| Conwy | 45.6 | 35.7 | 30.2 | 34.2 | 35.8 |
| Sir Ddinbych | 35.3 | 27.4 | 28.7 | 29.4 | 29.6 |
| Sir Benfro | 28.3 | 15.7 | 20.0 | 22.2 | 20.4 |
| Castell-nedd Port Talbot | 21.7 | 14.1 | 19.5 | 26.0 | 19.1 |
| Abertawe | 16.0 | 8.5 | 15.1 | 21.8 | 14.0 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 19.3 | 8.8 | 5.4 | 10.5 | 10.1 |
| Rhondda Cynon Taf | 17.0 | 8.1 | 4.6 | 10.9 | 9.5 |
| Tor-faen | 29.2 | 3.8 | 3.3 | 3.1 | 8.3 |
| Merthyr Tudful | 3.7 | 6.6 | 4.8 | 9.5 | 8.1 |
| Caerffili | 17.4 | 6.1 | 3.3 | 4.5 | 7.4 |
| Blaenau Gwent | 22.6 | 3.4 | 2.7 | 2.6 | 6.4 |
|
Fyfnhonnell: Arolwg Cyfweld Teuluoedd Cymru 1997
2.3 HYGYRCHEDD
2.3.1 Cysylltiadau Ffyrdd a Rheilffyrdd
Mae'r isadeiledd craidd o ffyrdd a rheilffyrdd, sy'n gwasanaethu'r prif drefydd a'r porthladdoedd yn ei le ar y cyfan, ond fe'i cyfyngir gan dirwedd y Gorllewin a'r Cymoedd. Cydnabu'r Comisiwn Ewropeaidd bwysigrwydd y prif lwybrau rheilffyrdd a ffyrdd o'r dwyrain i'r gorllewin drwy eu dynodi'n llwybrau'r Rhwydweithiau Traws-Ewropeaidd ym 1994. Ceir hefyd lwybrau rheilffyrdd rhwng rhanbarthau ar linell Calon Cymru sy'n rhedeg o Lanelli i'r Amwythig, a Llinell Cambria sy'n rhedeg o'r Amwythig i Bwllheli drwy Aberystwyth. Paratowyd nifer o strategaethau trafnidiaeth is-ranbarthol er mwyn dynodi'r blaenoriaethau is-ranbarthol mewn cryn fanylder. Ond tanseilir y defnydd o'r llwybrau rheilffyrdd gan lefelau'r gwasanaethau, sy'n aml yn golygu bod angen teithio i'r prif orsafoedd â chludiant preifat. Rhed y llwybrau rhwng y de a'r gogledd o'r ardal gymwys, ar y cyfan y tu allan i ffiniau'r ardal ei hun, ac eithrio'r A487, sy'n rhedeg ar hyd yr arfordir gorllewinol.
Ar sail Cymru gyfan, disgwylir i drafnidiaeth ar y ffyrdd gynyddu rhwng 1% a 2% y flwyddyn, sy'n golygu cynnydd cronnol o rhwng 16% a 36% rhwng 1996 a 2010, a rhwng 32% a 71% rhwng 1996 a 2025. Seilir yr amcangyfrifon hyn ar y cynnydd mewn gweithgarwch economaidd a theithio personol, ond nid ydynt yn cynnwys effaith newidiadau mewn polisi, megis cynlluniau i leihau traffig. Yn wir, yn rhannau mwyaf ffiniol, gwledig a thenau eu poblogaeth y Gorllewin a'r Cymoedd, mae'n rhaid i bobl fod yn berchen ar gar oherwydd y dewis gwael sydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Llywodraeth y DU newydd gwblhau adolygiad o'r rhaglen cefnffyrdd yng Nghymru yng ngyd-destun y strategaeth drafnidiaeth integredig, sy'n nodi rhwydwaith craidd newydd ar gyfer Cymru. Mae'r cynlluniau a nodwyd gan yr adolygiad dan astudiaeth ar hyn o bryd er mwyn asesu pa mor ymarferol ydynt o fewn meini prawf yr amgylchedd, yr economi, diogelwch a hygyrchedd, yn ogystal ag integreiddio.
2.3.2 Porthladdoedd
Mae nifer o borthladdoedd yng Nghymru, sy'n cynnig cysylltiadau trafnidiaeth â Gweriniaeth Iwerddon a gwledydd masnachol eraill, a maent yn arbennig o bwysig o ran olew, dur, pysgota, yr economi amaethyddol a defnydd hamdden. Mae gan ardal y Gorllewin a'r Cymoedd bedwar porthladd fferi sy'n creu cyswllt ag Iwerddon: Caergybi (i Ddulyn a Dún Laoghaire), Abergwaun (i Rosslare), Doc Penfro (i Rosslare) ac Abertawe (i Gorc). Hefyd mae Aberdaugleddau a Phort Talbot yn cynnig cyfleusterau angorfeydd dyfnion. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cydnabod Caergybi, Abergwaun, Aberdaugleddau, Doc Penfro ac Abertawe fel porthladdoedd y Rhwydweithiau Traws Ewropeaidd.
2.3.3 Cysylltiadau Awyr
Ni cheir o fewn y Gorllewin a'r Cymoedd yr un maes awyr gyda gwasanaethau rheolaidd, ond fe geir nifer o feysydd awyr sifil, sef Caernarfon, Aberporth, Hwlffordd, Pen-bre ac Abertawe sy'n bwysig i'r economïau lleol ac sydd â'r potensial i dyfu. Mae canolfannau'r Llu Awyr Brenhinol ar Ynys Môn, yn Y Fali a Mona, yn awyddus i ddatblygu defnydd sifil o'u cyfleusterau.
2.3.4 Cysylltiadau TGC
Ar hyn o bryd, er bod rhwydwaith BT yn gwasanaethu bron y cyfan o Gymru, ac arfordir De Cymru a'r Cymoedd wedi elwa o'r buddsoddiadau, mae rhai rhannau o Gymru wledig yn dal allan o gyrraedd y gwasanaethau uwchdonfeddi, a'r dyfeisiadau mwy modern a defnyddiol megis ISDN2. Mae'r gallu i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu newydd yn hanfodol i ffyniant economaidd a chymdeithasol y rhanbarth ar gyfer y dyfodol. Nid oes fawr o amheuaeth i ddiffygion yr isadeiledd telathrebu o fewn y rhanbarth fod yn ffactor sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a gyfyngodd ar y gallu i fanteisio ar y dechnoleg newydd.
2.3.5 Isadeiledd Ynni
Mae rhannau o'r rhanbarth yn dioddef gan isadeiledd gwael i'r gwasanaethau ynni - yn arbennig y cyflenwadau nwy diwydiannol. Mae'n amlwg i'r diffygion hyn gael effaith andwyol ar allu diwydiannau i ddatblygu, yn enwedig yn y rhannau mwy diarffordd.
2.4 YR ECONOMI
2.4.1 Strwythur Diwydiannol
Mae strwythur diwydiannol y Gorllewin a'r Cymoedd yn amrywio'n sylweddol rhwng cyn-gymoedd diwydiannol De Cymru ac ardaloedd mwy gwledig Gorllewin Cymru. Mae gan strwythur diwydiannol y Cymoedd ganran uwch o'r hanner o gyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu na chyfartaledd Cymru a Phrydain. Mae 32% o weithwyr y Cymoedd yn gweithio yn y diwydiannau cynhyrchu o'i gymharu â 22% yng Nghymru gyfan a 18% ym Mhrydain. Mae 66% yn gweithio yn y gwasanaethau o'i gymharu â 71% yng Nghymru a 76% ym Mhrydain. Mae mwy o ddibyniaeth ar weithfeydd cynhyrchu tramor yn ardal y Cymoedd, gyda chynnydd o 62% rhwng 1988 ac 1996, o'i gymharu â 46% yng Nghymru. Golyga hyn fod yr economi leol yn sensitif iawn i amrywiadau byd eang. Ychydig iawn o Fusnesau Bach a Chanolig a geir yn y Cymoedd. Nifer fach o fusnesau a sefydlir yno, ac mae'r cyfraddau goroesi'n isel. Lefel isel o hunan-gyflogaeth a geir yn yr ardal, sef 9.2% o'i gymharu â 14.7% dros Gymru. Dim ond 15 o gwmnïau bychain fesul 1,000 o'r boblogaeth sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o 25; awgryma hyn dystiolaeth gref o ddiffyg mentergarwch yn yr ardal hon.
Yng Ngorllewin Cymru fodd bynnag mae'r sefyllfa braidd yn wahanol. Fan hyn, nid yw diwydiannau cynhyrchu o gymaint o bwys -er enghraifft, 9% yn unig o holl weithlu Ceredigion a gyflogir ganddynt. Llawer pwysicach yw'r sector cyhoeddus - yn Sir Benfro mae 35% o'r gweithlu yn gweithio mewn gweinyddu cyhoeddus, amddiffyn, addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol; y ffigwr dros Geredigion yw 38%. Cymharer ffigwr Castell-nedd Port Talbot, sef 24% yn unig.
2.4.2 Cyflogaeth
Cyflogir cyfanswm o 564,100 o bobl yn ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Dengys Tabl 2 isod sut mae'r nifer hwn yn rhannu'n fras:
Tabl 2
| Sector | Nifer | % |
| Amaethddiaeth a Physgota | 1,900 | 0.3 |
| Ynni a Döwr | 7,400 | 1.3 |
| Cynhyrchu | 126,800 | 22.5 |
| Adeiladu | 23,900 | 4.2 |
| Dosbarthu, Gwestai a Bwytai | 117,800 | 20.9 |
| Trafnidiaeth a Chyfathrebu | 21,100 | 3.7 |
| Bancio, Cyllid ac Yswiriant ac ati | 47,900 | 8.5 |
| Gweinyddu Cyhoeddus, Addysg ac Iechyd | 191,000 | 33.9 |
| Gwasanaethau eraill | 26,300 | 4.7 |
| CYFANSWM | 564,100 | 100.0 |
Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys pobl hunan-gyflogedig, sy'n golygu fod y nifer a nodir mewn rhai sectorau (amaethyddiaeth a physgota - gweler adrannau 2.4.5 a 2.4.13) yn rhy isel. Ond dangosir yn glir bwysigrwydd gweinyddu cyhoeddus, addysg ac iechyd, cynhyrchu a dosbarthu, gwestai a bwytai yn nhermau cyflogaeth y Gorllewin a'r Cymoedd.
2.4.3 Diweithdra
Mae diweithdra yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd ar ei uchaf yn TTWA Caergybi, Hwlffordd, De Sir Benfro ac Aberdâr, lle ceir rhagor na 10% yn ddi-waith. Mae gan weddill gogledd orllewin Cymru ynghyd â Chymoedd De Cymru a TTWA Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron yng Ngheredigion raddfeydd diweithdra o rhwng 6% a 10%. Mae hyd yn oed y ffigyrau hyn yn cuddio ambell fan gwan, megis Aberdaugleddau, lle roedd diweithdra ymhlith dynion ym mis Ebrill 1999 yn 24.6%.
2.4.4 Cynnyrch Domestig Gros ac Enillion
Amcangyfrifwyd mai 73% o gyfartaledd yr UE yw Cynnyrch Domestig Gros y Gorllewin a'r Cymoedd. Ond mae'r ffigwr hwn yn cuddio amrywiaethau sylweddol mewn perfformiad o fewn yr ardal. Roedd CDG yn y Cymoedd Canol ac Ynys Môn cyn lleied â 64% a 68% yr un, tra chyflawnodd Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot (sydd yn ganolfan i weithfeydd cynhyrchu nodedig, ac wedi derbyn buddsoddiad mewnol sylweddol o wledydd tramor) CDG o 87% o gyfartaledd yr UE. Yng Ngwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, De Orllewin Cymru a Chymoedd Gwent mae'r CDG yn amrywio o 72% i 74% o gyfartaledd yr UE (ffigyrau 1996 i gyd).
2.4.5 Amaethyddiaeth a Choedwigaeth
Mae'r sector amaethyddol yn hanfodol bwysig i ardal y Gorllewin a'r Cymoedd. Ym 1996 roedd 28,000 o ffermydd yng Nghymru yn cyflogi cyfanswm o tua 64,000. Gwnaeth y dirywiad diweddar yn y sector amaethyddol fywyd yn fwyfwy caled ar y boblogaeth wledig. Bu'r sector ar y cyfan yn dirwyio ers nifer o flynyddoedd, ond creodd cyfuniad o ddatblygiadau negyddol yn ddiweddar galedi eithafol o fewn y diwydiant. Gellir eu crynhoi fel a ganlyn:
- gwerth uchel y bunt ochr yn ochr ag arian gwledydd eraill
- y gwaharddiad ar allforio cig eidion Pr ydain
- mewnforio mwy o gig eidion sydd wedi gostwng prisiau domestig
- gostyngiad mewn prisiauˆwyn a da byw
- gostyngiad mewn prisiau llaeth a chynnydd yn y costau casglu
- gostyngiad sylweddol mewn cymorthdaliadau dan y Polisi Amaeth Cyffredin
O ganlyniad uniongyrchol i'r datblygiadau hyn, bu gostyngiad yn y nifer a gyflogir wr th i fwy o ffermydd/busnesau gael eu rhedeg yn rhan amser. Yn ogystal â'r gostyngiad yn y nifer a gyflogir, mae cyfartaledd oedran y rhai sy'n gweithio o fewn y diwydiant yn codi. Creodd y duedd barhaus hon (dros y 15 mlynedd a fu) sector sydd â gweithlu llawer hyˆn na'r sectorau gwaith eraill. Daw'n fwyfwy anodd i ragweld sut y gall amaethyddiaeth ddenu gweithlu ifanc (dros y tymor byr a'r tymor hir) tra pery'r fath amgylchiadau.
Mae gan y sectorau amaethyddol a choetiroedd a geir o fewn yr ardal hon eu cyfraniad hanfodol i economi, amgylchedd a bywiogrwydd y cymunedau gwledig. Mae'r dulliau traddodiadol o weithio'n dirywio o ganlyniad i newid mewn tueddiadau, megis y duedd at economi byd eang. Er mwyn gwrthsefyll hyn, mae'n rhaid creu cyfleoedd gwaith cynaliadwy, gan fanteisio ar nodweddion artiffisial a naturiol amgylchedd cefn gwlad.
2.4.6 Twristiaeth
Mae twristiaeth yn elfen bwysig o gyfansoddiad economi y Gorllewin a'r Cymoedd, ac yn cynnig ffynhonnell allweddol o incwm a chyflogaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd arfordirol a chefn gwlad. Mae hefyd yn cynnig ffynhonnell amgen o incwm yn yr ardaloedd hynny lle bu crynailstrwythuro. Mae'r diwydiant yn darparu nifer fawr o swyddi, ac mae nid yn unig yn ddeniadol ond hefyd o fewn cyrraedd pobl ifanc a menywod. Ond mae'n waith tymhorol ac yn cynnig graddfeydd tâl isel, sy'n golygu mai ychydig iawn o bobl sy'n dewis twristiaeth fel gyrfa. Mae gwariant twristiaid yn cyfrif am 10% o'r CDG yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mewn rhai mannau o Orllewin Cymru mae hyn yn codi i dros 20%. (Ffynhonnell: Bwrdd Croeso Cymru). Mae tua 8% o'r holl weithlu yn y Gogledd a'r Cymoedd wedi'u cyflogi mewn diwydiannau sy'n berthnasol i dwristiaeth. Drachefn, mae hyn yn codi i dros 20% y Gorllewin. (Ffynhonnell: NOMIS/ Arolwg o'r Gweithlu). Mae gwariant twristiaeth o fewn y rhanbarth yn cynnal tua 60,000 o swyddi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Ond serch hynny, mae strwythur y diwydiant twristiaeth yn newid, ac mae hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol.
Er bod cynlluniau ar y gweill i hyrwyddo'r symudiad tua'r marchnadoedd sy'n ehangu, megis ymwelwyr domestig sy'n aros am gyfnodau byr, mae llawer o'r diwydiant (yn enwedig y canolfannau glan môr) yn dal i ddarparu ar gyfer y marchnadoedd traddodiadol sy'n dirywio, sef teuluoedd a phrif wyliau. Mae twristiaeth sy'n gysylltiedig â busnes, a thwristiaeth ymwelwyr undydd yn dod yn fwyfwy pwysig, a gallai hyn gynorthwyo i wneud y diwydiant yn llai tymhorol. Ar y cyfan mae twristiaid oddi tramor sy'n ymweld â'r rhanbarth yn chwilio am y golygfeydd a'r dreftadaeth, ac am draddodiadau diwylliannol a'r dirwedd. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi y Gorllewin a'r Cymoedd. Mae'n gymorth i gynnal amgylchedd, cymunedau a diwylliant y rhanbarth. Mae'n estyn cynhaliaeth i wasanaethau a chyfleusterau lleol, na fyddai'n ymarferol heb nawdd twristiaeth; mae hefyd yn rhoi hwb i ddelwedd gadarnhaol a neilltuol y rhanbarth.
2.4.7 Dur a Thunplat
Bu Castell-nedd, Port Talbot, Abertawe a Llanelli yn brif ganolfan i'r diwydiant dur dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, a bu'n bwysig o ran cynhyrchu haearn, dur tunplat a dur wedi'i orchuddio. Ond yng nghwrs y blynyddoedd crebachodd y diwydiant, gan olygu cau nifer o'r gweithfeydd a lleihau nifer y gweithlu yn y gweithfeydd eraill. Ar y cychwyn, modd o ymateb i'r buddsoddiadau cyfalaf uchel oedd yr ad-drefnu hwn, ond yn ddiweddarach bu'n rhaid cynhyrchu llai oherwydd pwysau masnachol o ganlyniad i gr yfder y bunt, ynghyd â chystadleuaeth gan gyflenwyr dur o dramor.
2.4.8 Olew a Phetrogemegau
Cynrychiolir y diwydiant puro olew gan Texaco ac Elf Oil ar hyd ddyfrffordd Aberdaugleddau a chan BP yn Llandarsi a Baglan, yn ogystal â storfa olew yn yr hen burfa Gulf yn Aberdaugleddau, a weithredir bellach gan Petroplus. Mae Texaco ac Elf Oil gyda'i gilydd yn cyflogi 800 o bobl. Ond mae'r diwydiant olew yn dioddef ar raddfa byd eang o ad-drefnu oherwydd gorgynhwysedd.
2.4.9 Glo
Cyn 1979 roedd 42 o byllau glo (38 o byllau dan reolaeth gan gynnwys pyllau wedi cyfuno) yn nghymoedd De Cymru. Dros y pymtheng mlynedd dilynol, caewyd y cyfan ohonynt, er yr agorwyd glofeydd Y Betws a'r Tˆwr yn dilyn eu prynu gan y gweithwyr a'r rheolwyr. Collwyd i gyd tua 27,000 o swyddi, ond nid yw'r ffigwr hwn yn ystyried gweithwyr Glo Prydain mewn gweithfeydd glo brig, gweithfeydd ar wahân i gloddio a gweithfeydd anniwydiannol, nac ychwaith y rhai a gyflogir yn y pyllau bychain dan drwyddedau preifat.
2.4.10 Cynhyrchu
Mae cynhyrchu yn cyfrif am 22.5% o gyflogaeth ardal y Gorllewin a'r Cymoedd, yn unol â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae'r ardal Amcan 1 yn cynnwys bron 60% o holl swyddi cynhyrchu Cymru. Ond mae hyn yn cuddio amrywiaeth eang rhwng ardaloedd yr awdurdodau unedol sy'n ei ffurfio o 5.3% yng Nghonwy i 42.9% ym Mlaenau Gwent. Mewn rhannau o'r ardal mae cyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu yn uwch o lawer na chyfartaledd y DU.
Yn nhermau lleoliad daearyddol, ar wahân i Ynys Môn, ceir y gyfran uchaf o swyddi cynhyrchu yng nghymoedd De Cymru, lle mae'n amrywio o 24.6% ym Merthyr Tudful i 42.9% ym Mlaenau Gwent. Ar y llaw arall, yng ngweddill y rhanbarth mae'r gyfran yn llawer is, ac yn amrywio o 5.3% yng Nghonwy i 14.2% yn Sir Gaerfyrddin. Y mathau mwyaf arwyddocaol o gynhyrchu (yn nhermau niferoedd y gweithwyr) yw cynhyrchu cyfarpar trafnidiaeth, cynhyrchu metelau a ffabrigiadau, cyfarpar optegol a thr ydanol a chynhyrchu pren, rwber a phlastig. Ar y cyd, mae'r diwydiannau hyn yn cyflogi dros 82,000 o bobl yn y Gorllewin a'r Cymoedd, sydd gymaint â 64% o holl gyflogaeth cynhyrchu'r ardal.
Bu dirywiad yn y diwydiannau cynhyrchu dros y pymtheng mlynedd diwethaf gyda thueddiadau cudd o fewn y sector. Nododd Arolwg diweddar Sgiliau Cymru'r Dyfodol bod buddsoddiadau tramor uniongyrchol mewn cyflogaeth cynhyrchu wedi achosi cynnydd yn y diwydiannau electronig, moduron ac optegol, tra gwelodd y diwydiannau mwy traddodiadol, megis metelau a pheirianneg ddirywiad. Ar sail Cymru gyfan, mae lefelau'r swyddi cynhyrchu yn debygol o barhau i ddirywio, ond ar raddfa is o'r hanner nag yn achos gweddill y DU.
2.4.11 Amddiffyn
Yn hanesyddol, bu'r diwydiant amddiffyn yn bwysig i'r Gorllewin a'r Cymoedd, yn enwedig i dde orllewin Cymru. Ond yn sgil diwedd y Rhyfel Oer a'r Arolygon Amddiffyn a'i ddilynodd, collwyd niferoedd o swyddi oherwydd cau neu israddio canolfannau. Ers 1991 caewyd RNAD Aberdaugleddau, RNAD Trecˆwn, RAF Breudeth a NAVAC Breudeth. Ond serch hynny erys sefydliadau amddiffyn yn y Gorllewin a'r Cymoedd, ac mae eu cyfraniad i gyflogaeth yn bwysig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig, lle bo cyfleoedd am swyddi'n brin.
2.4.12 Pysgota Môr
Amcangyfrifir bod tua 1,000 o bysgotwyr llawn amser yng Nghymru, ynghyd â thua 300 o rai rhan amser sydd, yn ogystal ag 840 yn rhagor o weithwyr ar dir mawr Cymru, yn gwneud cyfanswm o tua 2,140 o bobl sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r diwydiant. Ceir dau brif bor thladd pysgota yn y Gorllewin a'r Cymoedd, sef Aberdaugleddau a Chaergybi, ynghyd â rhai porthladdoedd llai.
2.5 YR AMGYLCHEDD
2.5.1 Statws Amgylcheddol Presennol
Cynhwysir arfarniad amgylcheddol o ardal y Gorllewin a'r Cymoedd yn Atodiad 1. Mae dwy elfen i'r arfarniad, sef yn gyntaf, arolwg o gyfalaf amgylcheddol pob rhan o'r ardal dan sylw, ac yn ail, problemau allweddol yr amgylchedd a llygredd, wedi'u cymryd o Gynlluniau Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd (CLlAAau) a baratowyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Ond fe geir, fodd bynnag, rai problemau a materion amgylcheddol sy'n berthnasol i rannau helaeth o'r ardal dan sylw neu yn wir i'r ardal gyfan, sef:
- newid hinsawdd
- ansawdd yr aer
- ansawdd dˆwr croyw
- ansawdd dˆwr yr arfordir
- ansawdd y tirwedd
- gwastraff
- cynefinoedd a bywyd gwyllt Cynhwysir manylion pellach yn Atodiad 1.
2.5.2 Strategaeth Amgylcheddol
Rhestrir yma y sylwadau priodol ar y materion a nodwyd yn Atodiad 1 ar statws amgylcheddol presennol Cymru. Maent yn seiliedig ar 'Amgylchedd Gweithredol i Gymru' a gynhyrchwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac 'Amgylchedd Byw i Gymru' a gynhyrchwyd ar y cyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth. Nodir naw o amcanion allweddol:
- Arbed ynni drwy ddatblygu strategaeth ynni cynaliadwy
- Hyrwyddo trafnidiaeth integredig
- Hyrwyddo'r defnydd effeithiol o adnoddau naturiol
- Cefnogi defnydd tir cynaliadwy
- Amddiffyn a gwella bioamrywiaeth
- Hyrwyddo addysg amgylcheddol, cyfraniad y cymunedau a chynlluniau partneriaeth
- Datblygu rhaglenni monitro er mwyn sefydlu cysylltiadau rhwng iechyd cymunedol ac ansawdd amgylcheddol
- Gwella'r isadeiledd i gefnogi datblygu cynaliadwy ac amddiffyn cymunedau bregus
- Cwblhau adfer y difrod amgylcheddol a adawyd gan ddiwydiannau'r gorffennol
2.5.3 Gwerthuso Effaith Amgylcheddol y Rhaglen Amcan 1
Bydd y dulliau asesu amgylcheddol a ddefnyddir ar gyfer y prosiectau o fewn y rhaglen Amcan 1 yn ffurfio Arfarniad Amgylcheddol Strategol (AAS). Bydd hwn yn gymorth i swyddogion cynllunio a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau drwy gynnig iddynt wybodaeth amgylcheddol berthnasol ar oblygiadau cadarnhaol a negyddol y cynlluniau a'r rhaglenni. Bwriedir i bob cam o'r AAS hwyluso'r broses o integreiddio'r amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Nod cyffredinol yr AAS yw mesur i ba raddau y mae'r mesurau a awgrymir yn y rhaglen yn cwrdd ag amcanion y Strategaeth Amgylcheddol. Dylid ei ddefnyddio i gyfeirio'r rhaglen i gyflawni effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Dylai'r budd gwirioneddol fod yn amlwg.
2.5.4 Dulliau Monitro a Gwerthuso Amgylcheddol
Ymgymerir â'r gwaith o fonitro a gwerthuso'r rhaglen Amcan 1 dros y Gorllewin a'r Cymoedd i safbwynt amgylcheddol gan yr awdurdodau priodol a restrir yn Adran 2.5.5. Caiff canlyniadau amgylcheddol y rhaglen eu monitro ochr yn ochr â data sylfaenol sy'n briodol i bob blaenoriaeth a mesur. Rhestrir y dangosyddion amgylcheddol a fydd ar gael yn ystod 1999 yn Adran 2.5.2.
2.5.5 Fframwaith Gyfreithiol a Gweinyddol
Dirprwyir gweithgareddau monitro ac amddiffyn amgylcheddol yng Nghymru i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a'r awdurdodau lleol. Mae cyfrifoldeb dros y coetiroedd yn nwylo'r Comisiwn Coedwigaeth.
2.6 CYFLEOEDD CYFARTAL
Cynyddodd Cytundeb Amsterdam 1997 sgôp polisi Cyfleoedd Cyfartal yr UE, gan weithredu strategaeth gyflogi newydd sydd â chydraddoldeb yn hanfod sylfaenol iddi. Ymestynwyd yr egwyddorion i gynnwys mesurau i wrthsefyll gwahaniaethu ar sail hil neu dras ethnig, crefydd neu gredo, anabledd, oed neu dueddiadau rhywiol. Mae rhaglen Amcan 1 ar gyfer y Gorllewin a'r Cymoedd yn mabwysiadu'r dull cynhwysfawr uchod i wrthsefyll anghydraddoldeb, gan gynnwys yn ogystal faterion iaith fel y bo'n briodol i natur ddwyieithog unigryw y rhanbarth o'i chymharu a rhannau eraill o'r DU.
Mae anghydraddoldeb yn arwain at godi rhwystrau, o ran strwythur ac agwedd, sydd yn eu tro yn cyfyngu ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Dyma un o'r prif resymau dros raddfeydd cyfranogiad isel, ac felly dros CDG isel. Yn y Gorllewin a'r Cymoedd mae graddfeydd gweithgarwch economaidd ymhlith menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl gydag anableddau yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae safle menywod a phobl anabl o fewn y farchnad waith gonfensiynol yncael ei ailadrodd ym maes menter, lle na welir fawr ohonynt fel entrepreneuriaid, o'u cymharu â'r lleiafrifoedd ethnig.
Mae'r duedd i wahanu'r rhywiau, yn fertigol a llorweddol, yn amlycach drwy'r farchnad waith yn y rhanbarthau nag ydyw dros y DU gyfan, gan wthio menywod i sectorau galwedigaethol cyfyng ac i waith sydd â statws a chyflog isel ar y cyfan. A hefyd, yng Nghymru y ceir rhai o'r lefelau isaf o ddarpariaeth gofal plant yn y DU, ac mae Gorllewin Cymru wledig a'r Cymoedd dan anfantais arbennig yn y maes hwn.
Rhaid cael mesurau i ddileu'r rhwystrau i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ac i gynyddu potensial y grwpiau hyn, sydd ar hyn o bryd heb fawr o gynrychiolaeth, i ennill incwm uwch, os yw strategaethau adfywio'r economi am lwyddo ac am fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Dadansoddiad SWOT
Nid yw'r rhestr ganlynol yn un gynhwysfawr, ond yn hytrach yn un sy'n canolbwyntio ar nodweddion allweddol a fydd yn dylanwadu ar y strategaeth ac yn ei chefnogi.
3.1 DATBLYGU BUSNES A MENTER
Cryfderau
- Presenoldeb colegau addysg bellach ac uwch.
- Graddfeydd cyflogau cystadleuol.
- Sector cyhoeddus gefnogol.
- Gweithlu a sector Busnesau Bach a Chanolig parod a mentrus.
- Amgylchedd braf.
- Cynllun Technoleg Rhanbarthol wrth law.
- Economi gymdeithasol fentrus.
Gwendidau
- Strwythur diwydiannol anghytbwys.
- Gweithgarwch economaidd wedi'i ganolbwyntio yn y sectorau isel eu gwerth.
- Defnydd annigonol o isadeiledd a chyfleoedd ymchwil ar ran y Busnesau Bach a Chanolig.
- Sail economaidd yn rhy gyfyng.
- Lefel isel o fentergarwch ar ran y Busnesau Bach a Chanolig.
- Etifeddu dirywiad diwydiannol.
- Lefel isel o fuddsoddi mewnol, yn arbennig yng Ngorllewin Cymru.
- Graddfa isel o Ymchwil a Datblygiad.
- Arian wrth law i gynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig i dyfu.
- Graddfa uchel o Fusnesau Bach a Chanolig yn methu.
- Statws cymdeithasol isel i'r entrepreneur.
- Lefelau sgiliau isel ymhlith y gweithlu.
- Gorddibynnu ar sail economaidd sy'n rhy gyfyng a'r sector cyhoeddus.
- Dim digon o siaradwyr Cymraeg ymhlith yr entrepreneuriaid.
Cyfleoedd
- Posibilrwydd y bydd economïau de ddwyrain a gogledd ddwyrain Cymru'n "gordwymo".
- Meithrin gweithgareddau menter a datblygiad ymhlith siaradwyr Cymraeg.
- Ailgyfeirio polisïau a chyllid i rannau mwy dirwasgedig.
- Adolygu map Cymorth y Wladwriaeth.
- Manteisio ar dwf y marchnadoedd tramor a domestig.
- Meithrin datblygiad y sectorau busnesau sy'n tyfu.
- Creu gweithlu mentrus a chystadleuol.
- Sefydlu gwell diwylliant o fentergarwch.
- Creu diwylliant o arloesi a thechnoleg.
- Meithrin sgiliau a doniau'r bobl.
- Datblygu swyddogaeth Addysg Uwch.
- Hyrwyddo gwasanaethau yn neheubarth y cymoedd.
- Cyfleoedd datblygu economaidd yn agos i'r canolfannau trefol.
- Potensial TGC ar gyfer teleweithio.
Bygythiadau
- Dirywiad pellach y diwydiannau traddodiadol.
- Cyfyngiadau ariannol o fewn y sector cyhoeddus.
- Adolygiad o'r map Cymorth Rhanbarthol.
- Mwy o gystadleuaeth oddi wrth economïau a marchnadoedd eraill isel eu cyflogau.
- Costau llafur isel yn denu swyddi â lefel sgiliau isel mewn is-ganghennau i weithfeydd.
- Y sector cynhyrchu dan fygythiad dir ywiadau cylchol yn yr economi.
3.2 CREU AMGYLCHEDD CYSTADLEUOL
Cryfderau
- Lleoliad strategol mewn perthynas ag Iwerddon.
- Dynodi Rhwydweithiau Traws Ewropeaidd.
- Prif gysylltiadau da yn y gogledd a'r de.
- Meysydd awyr Manceinion a Chaerdydd o fewn cyrraedd.
- Isadeiledd rheilffyrdd eang yn rhannau dwyreiniol y rhanbarth.
- Polisïau buddsoddi blaengar ym maes trafnidiaeth gyhoeddus gan yr awdurdodau lleol.
Gwendidau
- Natur ymylol yr ardal yn ddaearyddol, a hefyd yng ngolwg marchnadoedd ehangach.
- Isadeiledd gwael ar gyfer trafnidiaeth - yn arbennig ffyrdd, rheilffyrdd a'r awyr.
- Isadeiledd TGC annigonol, gyda BusnesauBach a Chanolig yn gwneud defnydd annigonol ohono.
- Isadeiledd gwasanaethau gwael gan gynnwys nwy, dˆwr ac ati.
- Prinder safleoedd/adeiladau gyda'r gwasanaethau ar gyfer buddsoddwyr.
- Mynediad ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd i'r porthladdoedd a'r meysydd awyr rhanbarthol yn wael.
- Cysylltiadau gwael rhwng y gogledd a'r de.
Cyfleoedd
- Mynediad i'r rhanbarthau, ffyrdd strategol a'r Rhwydweithiau Traws Ewropeaidd yn gwella.
- Dileu'r rhwystrau presennol a gostwng anghydraddoldeb.
- Gwella isadeiledd ynni/ynni adnewyddadwy.
- Cyfrannu i gyflawni amcanion Agenda 21.
- Hyrwyddo twf diwydiannau sydd â'r amgylchedd yn ganolbwynt iddynt.
- Datblygu system drafnidiaeth integredig.
- Datblygu / ailddatblygu safleoedd diwydiannol allweddol.
- Uwchraddio cysylltiadau rheilffordd, isadeiledd meysydd awyr, a chyfleusterau porthladdoedd.
- Buddsoddi yn yr isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus.
- Polisi trafnidiaeth integredig a chynlluniau trafnidiaeth lleol yn ymddangos.
- Ymestyn y defnydd o drenau nwyddau.
- Gwella cysylltiadau ag Iwerddon.
- Datblygu rhwydwaith TGC.
- Datblygu ynni ar gyfer twf diwydiannol.
Bygythiadau
- Defnydd cenedlaethol pellach o fesurau cyllidol i reoli'r defnydd o geir.
- Dirywiad yn y system drafnidiaeth gyhoeddus.
- Dirywiad yn y rhwydwaith briffyrdd.
- Perygl o lefelau buddsoddiad is yn y rhwydwaith briffyrdd.
- Mwy o dagfeydd traffig.
- Canoli swyddi, hyfforddiant, gwasanaethau ac ati yn y canolfannau poblog.
3.3 ADFYWIO CYMUNEDAU
Cryfderau
- Cyfraddau troseddu isel ar y cyfan yng nghefn gwlad Cymru.
- Gwasanaeth iechyd da.
- Cymunedau bychain / cydlynu cymdeithasol.
- Hanes da o weithio mewn partneriaeth.
- Traddodiad cymunedol yn gryf.
- Ymdrechion menter sylweddol wedi'u sianelu i'r sector gweithgareddau gwirfoddol.
Gwendidau
- Cymunedau wedi'u hynysu a'u gwthio i'r cyrion.
- Diffyg cydlynu cymdeithasol mewn rhai cymunedau.
- Lefelau uchel o iechyd bregus a salwch.
- Pobl yn methu â derbyn amryw o'r gwasanaethau sylfaenol, yn arbennig yn achos llawer o'r grwpiau dan anfantais.
- Dibynnu'n arw ar fudd-daliadau'r wladwriaeth.
- Anfanteision difrifol mewn rhai wardiau.
- Sylfaen ariannol fregus ar gyfer grwpiau cymunedol, prinder asedau ac incwm tymor hir.
- Strwythurau i gynnal gweithredu cymunedol yn annigonol ar gyfer yr anghenion.
- Y sector cyhoeddus heb fod yn deall pwysigrwydd a photensial datblygu cymunedol.
Cyfleoedd
- Cyfle i gynnal datblygiadau'r dyfodol yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.
- Creu 'gwell cymunedau'.
- Annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y gwaith o adfywio cymunedau.
- Ton newydd o ddiddordeb yn y diwylliant lleol.
- Cyfle i wella amgylchedd y trefi a chefn gwlad.
- Gweithio ar y cyd a chreu partneriaethau.
- Hyrwyddo a datblygu gwaith adeiladu gallu yn y cymunedau.
- Gorchfygu problem eithrio cymdeithasol.
- Agwedd gyfannol tuag at ddatblygu cymunedau.
- Cryfhau'r cyfleoedd i gynyddu cyfraniad gwirfoddolwyr.
Bygythiadau
- Arwahanrwydd - ni all ardaloedd dirwasgedig ddatrys eu problemau ar wahân i'w gilydd.
- Fawr ddim gobaith am fuddsoddiad mawr gan y sector preifat yn yr amgylchedd adeiledig.
- Prinder trafnidiaeth gymunedol / cyhoeddus ddigonol.
- Yr argraff wael a geir o'r cymunedau difreintiedig.
- Y bwlch rhwng y cymunedau wedi'u heithrio a'r ardaloedd cyfoethocach yn lledu.
3.4 HYRWYDDO ADDASRWYDD I WEITHIO A DATBLYGU CYMDEITHAS DDYSGU
Cryfderau
- Addysg sylfaenol o safon uchel ar y cyfan ymhlith y boblogaeth.
- Gweithlu sy'n gallu addasu.
- Sylfaen gref i'r sgiliau traddodiadol.
- Amrediad a maint y rhai sy'n darparu hyfforddiant ac addysg ar hyn o bryd.
- Canolbwynt cryf ar hyfforddiant yn y maes cynhyrchu drwy'r Fenter Cynlluniau Gweithredu.
- Lled a maint y ddarpariaeth hyfforddiant ac addysg bellach.
- Twf y sector hunan-gyflogaeth.
- Lefelau uchel o rai sy'n ymadael â'r ysgol yn parhau mewn addysg lawn amser.
Gwendidau
- Prinder cyfleoedd am swyddi o ansawdd uchel.
- Diweithdra uchel ar y cyfan, gyda lefelau diweithdra ieuenctid a hir dymor, nifer y rhai sy'n ymadael â'r ysgol yn gynnar a nifer y rhai â chyraeddiadau addysgiadol isel i gyd yn uwch na'r cyfartaledd.
- Graddfeydd isel o weithgarwch economaidd.
- Cyflogau isel.
- Gweithlu sydd â lefelau sgiliau cymharol isel.
- Prinder cyfleusterau gofal plant.
- Methu sicrhau y gall pawb ddysgu ac ennill sgiliau.
- Lefelau uchel o ieuenctid wedi'u dieithrio.
- Pobl o'r ardaloedd difreintiedig yn amlygu diffyg hunanbarch a digalondid yn aml.
- Gwaherddir amryw o grwpiau dan anfantais rhag y cyfleoedd sydd ar gael.
- Graddedigion yn ymfudo.
Cyfleoedd
- Codi lefelau addysg a sgiliau.
- Datblygu cyfleoedd dwyieithog.
- Annog mwy o bobl i gymryd rhan, yn enwedig pobl wedi'u heithrio o'r gymdeithas.
- Sicrhau cyfle cyfartal i gyflogaeth a dysgu.
- Mwy o allu i gydweddu sgiliau â chyfleoedd.
- Cynyddu dyheadau personol drwy gyfrwng Dysgu am Oes a'r Fargen Newydd.
- Sefydlu dull gweithredu sy'n seiliedig ar ardal, a sawl sector gyda'i gilydd, er mwyn herio dwysedd y problemau cymdeithasol ac economaidd.
Bygythiadau
- Symudiad y boblogaeth.
- Colli hunaniaeth ddiwylliannol.
- Lledu'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r rhai wedi'u heithrio.
- Gallai strwythurau traddodiadol y cymunedau wanhau.
- Fawr ddim gobaith am fuddsoddiad gan y sector preifat.
- Lefelau buddsoddi yn y gwasanaethau sylfaenol.
3.5 DATBLYGU CEFN GWLAD A DEFNYDD CYNALIADWY O'R ADNODDAU NATURIOL
Cryfderau
- Ansawdd uchel yr amgylchedd.
- Hunaniaeth ddiwylliannol.
- Cyfoeth o adnoddau naturiol.
- Ysbryd cymunedol cryf.
- Gweithlu sy'n awyddus.
Gwendidau
- Dirywiad tymor hir mewn incwm ffermydd.
- Gorddibynnu ar sector amaethyddol sy'n dirywio.
- Sylfaen economaidd sy'n gyfyngedig a bregus.
- Incwm amaethyddol isel.
- Graddfa uchel o ddibynnu ar gymorthdaliadau.
- Poblogaeth ffermio sy'n heneiddio.
- Lefelau buddsoddiad isel gan y sector preifat.
- Gwasanaethau gwael yn cael eu darparu yng nghefn gwlad.
- Pobl ifainc yn ymfudo.
- Lefel isel o sgiliau.
- Prinder nwyddau o safon a diffyg marchnata mewn marchnadoedd arbenigol.
- Polisïau datblygu cefn gwlad rhy ddarniog.
Cyfleoedd
- Potensial i ychwanegu gwerth at gynnyrch lleol Cymru.
- Rheoli newidiadau amaethyddol.
- Datblygu cyfleoedd i gefnogi busnes ar gyfer y ffermwyr.
- Potensial i gynhyrchu mwy o nwyddau organig.
- Cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy.
- Datblygu cefn gwlad mewn ffordd integredig.
- Datblygu cymunedau cynaliadwy.
- Cynorthwyo amaethyddiaeth a'r defnydd tir Cymreig i ddod yn fwy cynaliadwy yn yr ystyr amgylcheddol ac ecolegol.
- Datblygu a hyrwyddo cyfleoedd diwylliannol ac ieithyddol.
- Creu'r cyfleoedd am gefnogaeth fusnes ar gyfer ffermwyr.
- Rheoli'r tirwedd.
- Mentrau agrogoedwigaeth ac amaeth y dˆwr.
- Potensial ar gyfer bioamrywiaeth.
- Potensial i gryfhau delwedd Cymru o fod yn wlad 'werdd', naturiol ac iachus.
- Diwygio PAC - fel cyfle i symud i gyfeiriad dulliau o amaethu sy'n fwy cynaliadwy.
- Cyfyngu'r cwotâu pysgota a diwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol yn 2002 - fel cyfle i ailadfer y stociau pysgod.
Bygythiadau
- Dirywiad ym mhob sector amaethyddol.
- Diwygio PAC - fel bygythiad i incwm ffermydd.
- Dirywiad yr iaith Gymraeg.
- Erydu cefn gwlad.
- Ymfudiad a cholli'r bobl ifanc.
- Mewnforio cynnyrch amaethyddol / pysgota / coed.
- Effaith gorbysgota ar yr amgylchedd.
- Poblogaeth byd amaeth yn parhau I heneiddio.
|